Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

(09.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

(09.00-10.00)

3.

Amcangyfrif incwm a threuliau gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru: Sesiwn dystiolaeth

Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru

Isobel Garner - Cadeirydd, Swyddfa Archwilio Cymru

Kevin Thomas – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol

Steven O’Donoghue – Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Dynol

 

Papur 1 – Swyddfa Archwilio Cymru - amcangyfrif o incwm a threuliau ar gyfer 2017-18

Papur 2 - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2015-16

Papur 3 - Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad terfynol ar ganfyddiadau'r archwiliad ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2016

Papur 4 - Swyddfa Archwilio Cymru Cynllun Blynyddol 2016-17 - Gan gynnwys gwybodaeth ychwanegol am ein blaenoriaethau a’n strategaeth tair blynedd

Papur 5 - Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad Interim - Asesiad o’r cynnydd a wnaethpwyd yn erbyn ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2016-17 yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2016

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Isobel Garner, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru; Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Swyddfa Archwilio Cymru; a Steven O'Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru.

(10.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 5, 9 a 10.

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

(10.00-10.15)

5.

Amcangyfrif incwm a threuliau gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

(10.15-11.15)

6.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2017-18: Sesiwn dystiolaeth 2

Natasha Davies, Partner Polisi, Chwarae Teg

Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru

Toby Roxburgh, Arbenigwr Economeg Gymhwysol, WWF UK

 

Papur 6 - WWF Cymru - tystiolaeth ysgrifenedig

Papur 7 - Chwarae Teg - tystiolaeth ysgrifenedig

Papur 8 - Llythyr gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Natasha Davies, Partner Polisi, Chwarae Teg; Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru; a Toby Roxburgh, Arbenigwr Economeg Gymhwysol, WWF UK.

(11.30-12.45)

7.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2017-18: Sesiwn dystiolaeth 3

Vanessa Young, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru

Gary Doherty, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (yn cynrychioli pob un o Brif Weithredwyr GIG Cymru)

Eifion Williams, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (yn cynrychioli Cyfarwyddwyr Cyllid GIG Cymru)

Steve Webster, Cyfarwyddwr Cyllid / Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

 

Papur 9 - Conffederasiwn GIG Cymru - tystiolaeth ysgrifenedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Vanessa Young, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru; Gary Doherty, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (yn cynrychioli pob Prif Weithredwr GIG Cymru); Eifion Williams, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (yn cynrychioli Cyfarwyddwyr Cyllid GIG Cymru); a Steve Webster, Cyfarwyddwr Cyllid / Dirprwy Brif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

 

7.2 Cytunodd Conffederasiwn y GIG i wneud y canlynol:

 

·         cadarnhau ai 3 y cant ynteu 5 y cant o'r gweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru sy'n ddinasyddion yr UE; a

 

gofyn i'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a ydyw'n gweld unrhyw effaith o ran prisiau'n cynyddu oherwydd newidiadau yn y gyfradd gyfnewid neu mewn perthynas â chwyddiant.

(13.30-15.00)

8.

Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru): Sesiwn dystiolaeth y Gweinidogion

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Andrew Hewitt, Rheolwr Polisi, Llywodraeth Cymru

Gareth McMahon, Cyfreithiwr y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol; Andrew Hewitt, Rheolwr Polisi, Llywodraeth Cymru; a Gareth McMahon, Cyfreithiwr y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru.

(15.00-15.30)

9.

Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Papur 10 – Y prif faterion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

(15.30-16.00)

10.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2017-18: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.