Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

 

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 245KB) Gweld fel HTML (221KB)

 

 

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Eluned Morgan AC.

 

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(10.00-11.45)

3.

Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Emma Cordingley - Cyfreithiwr

Sarah Tully - Rheolwr Prosiect Polisi Treth Ddatganoledig 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol; Emma Cordingley - Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru; a Sarah Tully - Rheolwr Prosiect Polisi Treth Ddatganoledig, Llywodraeth Cymru ynghylch Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).

 

3.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'n:

 

·         darparu manylion am y gyfran o dreth tirlenwi a delir gan awdurdodau lleol;

·         darparu rhestr o'r deunyddiau cymwys presennol; ac

·         ysgrifennu at y Pwyllgor yn dilyn y trafodaethau ynghylch i ba raddau y mae'r Bil yn ymdrin â chloddio glo brig.

 

(11.45)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.45-12.00)

5.

Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.00-12.15)

6.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Paratoadau ar gyfer gweithredu datganoli cyllidol yng Nghymru

Papur 1 - Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Paratoadau ar gyfer gweithredu datganoli cyllidol yng Nghymru - Rhagfyr 2016

Papur 2 - Paratoadau ar gyfer gweithredu datganoli cyllidol yng Nghymru: Ymateb gan Lywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad, a chytunodd i wahodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i roi tystiolaeth lafar yn y Flwyddyn Newydd.

 

(12.15-12.30)

7.

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: Rôl y Pwyllgor Cyllid

Papur 3 - Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 - Rôl y Pwyllgor Cyllid

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor ei ofynion yn unol â'r Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

 

(12.30-13.00)

8.

Y flaenraglen waith

Papur 4 - Blaenraglen waith - tymor y gwanwyn

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn.