Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 610KB) Gweld fel HTML (318KB)

 

(10.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Eluned Morgan AC, Steffan Lewis AC, a Neil Hamilton AC.

 

(10.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(10.00-11.00)

3.

Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: Sesiwn dystiolaeth 8 (Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru))

Alwyn Jones, Swyddog Arweiniol Gwasanaethau Oedolion, Cyngor Sir Ynys Môn a Chadeirydd Penaethiaid Gwasanaethau Oedolion Cymru Gyfan

Jenny Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Is-lywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

 

Papur 1 - Tystiolaeth ysgrifenedig - Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Alwyn Jones, Swyddog Arweiniol Gwasanaethau Oedolion, Cyngor Sir Ynys Môn a Chadeirydd Penaethiaid Gwasanaethau Oedolion Cymru Gyfan; a Jenny Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Is-lywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

 

(11.00-12.00)

4.

Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: Sesiwn dystiolaeth 9 (Cymdeithas Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol (SOLACE))

Dilwyn Williams, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd

 

Papur 2 - Tystiolaeth ysgrifenedig - Cymdeithas Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dilwyn Williams, Prif Weithredwr, Cyngor Gwynedd.

 

(12.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac eitemau 1-3 o'r cyfarfod ar ddydd Mercher 19 Gorffennaf 2017.

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.00 - 12.15)

6.

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2017-18: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 3 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau.

 

(12.15-12.20)

7.

Penodi Aelodau a Chadeirydd anweithredol i Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 4 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau.