Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/12/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC.

 

(09.30)

2.

Papur(au) i'w nodi:

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(09.30)

2.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2017-18 - Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru - 24 Tachwedd 2017

Dogfennau ategol:

(09.30)

2.2

Cynllun Ffioedd Archwilydd Cyffredinol Cymru 2018-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2 Cymeradwyodd y Pwyllgor Gynllun Ffioedd Archwilydd Cyffredinol Cymru 2018-19, yn unol ag adran 24(7) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

 

(09.30-10.30)

3.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Tracey Breheny Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Camddefnyddio Sylweddau, Busnes y Llywodraeth a Chorfforaethol

Janine Hale, Prif Swyddog Ymchwil (Economeg Iechyd)

 

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Camddefnyddio Sylweddau, Llywodraeth a Busnes Corfforaethol; a Janine Hale, Prif Swyddog Ymchwil (Economeg Iechyd) ar oblygiadau ariannol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).

 

3.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i:

·         ddarparu gwybodaeth am yr adolygiad cymheiriaid a gynhaliwyd ar y ffynonellau data a ddefnyddiwyd yn y gwaith modelu gan Brifysgol Sheffield;

·         darparu rhagor o wybodaeth am yr arian a ddyrennir i godi ymwybyddiaeth o'r isafbris am alcohol;

·         adrodd yn ôl i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion y Swyddfa Gartref, yn enwedig mewn perthynas ag unrhyw effaith ar y fframwaith ariannol; ac

·         adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar drafodaethau â Chonsortiwm Manwerthu Cymru ynghylch ardoll wirfoddol bosibl.

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 y cyfarfod ar 13 Rhagfyr 2017

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30-10.45)

5.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru): Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.45-11.15)

6.

Tanwariant Penderfyniadau'r Bwrdd Taliadau - Papur cwmpasu

Papur 1 - Tanwariant Penderfyniadau'r Bwrdd Taliadau - Papur cwmpasu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull tuag at ei ymchwiliad ar Danwariant Penderfyniad y Bwrdd Taliadau.