Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/03/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC a Mike Hedges AC.

 

(09.30)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN1 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at y Cadeirydd - Horizon 2020 Adroddiad Blynyddol 2017 - 7 Mawrth 2018

Dogfennau ategol:

2.2

PTN2 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at y Cadeirydd - Bondiau Buddsoddi Cyfalaf - 8 Mawrth 2018

Dogfennau ategol:

2.3

PTN3 - Llythyr gan Gomisiwn y Cynulliad at y Cadeirydd - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2018-19 - 9 Mawrth 2018

Dogfennau ategol:

(09.30-10.30)

3.

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: Sesiwn dystiolaeth (Swyddfa Archwilio Cymru)

Alison Gerrard, Aelod o'r Bwrdd, Swyddfa Archwilio Cymru

Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol

Martin Peters, Pennaeth Cyfraith a Moeseg, Swyddfa Archwilio Cymru

Nicola Evans, Pennaeth Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru

 

Papur 1 – Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Y drefn ffioedd archwilio cyhoeddus gymhleth yng Nghymru - achos dros newid

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar drefn ffioedd Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 gan Alison Gerrard, Aelod o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru; Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol; Martin Peters, Pennaeth Cyfraith a Moeseg, Swyddfa Archwilio Cymru; a Nicola Evans, Pennaeth Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru.

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5 ac eitemau 8-11

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30-10.40)

5.

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.40-11.10)

6.

Ymchwiliad i'r tanwariant sy'n deillio o Benderfyniadau'r Bwrdd Taliadau: Sesiwn dystiolaeth 1 (Swyddfa Archwilio Cymru)

Anthony Barrett - Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol

Ann-Marie Harkin, Arweinydd Archwilio Ariannol ar gyfer archwilio cyfrifon Comisiwn y Cynulliad, Swyddfa Archwilio Cymru

 

Papur 2 – Swyddfa Archwilio Cymru: Tystiolaeth ysgrifenedig

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth mewn perthynas â'i ymchwiliad i'r tanwariant sy'n deillio o Benderfyniadau'r Bwrdd Taliadau gan Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol; ac Ann-Marie Harkin, Arweinydd Archwilio Ariannol ar gyfer archwilio cyfrifon Comisiwn y Cynulliad, Swyddfa Archwilio Cymru.

 

(11.20-12.10)

7.

Ymchwiliad i'r tanwariant sy'n deillio o Benderfyniadau'r Bwrdd Taliadau: Sesiwn dystiolaeth 2 (Comisiwn y Cynulliad)

Suzy Davies AC, Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid, Comisiwn y Cynulliad

 

Papur 3 - Comisiwn y Cynulliad: Tystiolaeth ysgrifenedig

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth mewn perthynas â'i ymchwiliad i'r tanwariant sy'n deillio o Benderfyniadau'r Bwrdd Taliadau gan Suzy Davies AC, Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; a Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid, Comisiwn y Cynulliad.

 

(12.10-12.20)

8.

Ymchwiliad i'r tanwariant sy'n deillio o Benderfyniadau'r Bwrdd Taliadau: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.20-12.40)

9.

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): trafod Adroddiadau Pwyllgor Cyfnod 1

Papur 4 – Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): Trafod Adroddiadau Pwyllgor Cyfnod 1

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod yr adroddiadau Cyfnod 1 ar Fil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

 

(12.40-12.55)

10.

Gweithdrefn y Cynulliad ar gyfer Gorchmynion Adran 116C yn y Cyngor

Papur 5 - Llythyr gan y Llywydd at y Cadeirydd - Gweithdrefn y Cynulliad ar gyfer Gorchmynion Adran 116C yn y Cyngor - 1 Mawrth 2018

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod llythyr gan y Pwyllgor Busnes ynghylch y newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Gweithdrefn y Cynulliad ar gyfer Gorchmynion Adran 116C yn y Cyngor a chytunodd i ymateb.

 

(12.55-13.10)

11.

Datganoli pwerau cyllidol i Gymru: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 6 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai mân newidiadau.