Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/09/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Agorodd y Clerc y cyfarfod a galwodd am enwebiadau i ethol cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn ac ar gyfer y cyfarfod ar 27 Medi 2018.

 

1.2 Enwebwyd Llyr Gruffydd gan David Rees, ac fe'i hetholwyd yn gadeirydd dros dro.

 

1.3 Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC. Roedd Llyr Gruffydd yn bresennol ar ei ran.

 

(09.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.8

PTN1 - Llythyr gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol - Grŵp Rhyng-Weinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol - 26 Gorffennaf 2018

Dogfennau ategol:

2.2

PTN2 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2018-19 - 10 Awst 2018

Dogfennau ategol:

(09.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 27 Medi 2018

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.00-10.30)

4.

Paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 1 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i gymeradwyo unrhyw newidiadau pellach drwy e-bost.

 

(10.30-10.40)

5.

Trafod Offeryn Statudol Treth

Papur 2 - Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018 - Sesiwn friffio cyfreithiol

 

Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018

Memorandwm esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor yr offeryn statudol a gofynnwyd am ddiffiniad cyfreithiol o 'top-soil'.

 

(10.40-10.45)

6.

Mentrau Senedd@

Papur 3 - Llythyr gan y Llywydd - mentrau Senedd@ – 18 Gorffennaf 2018

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y mentrau Senedd@ arfaethedig.

 

(10.45-11.45)

7.

Cost Gofalu am Boblogaeth sy’n Heneiddio: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 4 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd i ystyried y fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod nesaf.

 

(11.45-11.50)

8.

Dull ar gyfer Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

Papur 5 - Dull ar gyfer Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull o graffu ar y gyllideb ddrafft a'r amserlen ar gyfer sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr hydref. Cytunodd y Pwyllgor i gynnal cyfarfod ar y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar asesiadau effaith yn y gyllideb.