Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges AC Neil Hamilton AC, Rhun ap Iorwerth AC a Nick Ramsay AC.

 

(09.15)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN1 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cyllideb y DU ar gyfer yr Hydref 2018 - Arian canlyniadol i DEL Cymru - 19 Tachwedd 2018

Dogfennau ategol:

2.2

PTN2 - Llythyr gan Gomisiwn y Cynulliad: Cynllun Ymadael Gwirfoddol 2018 - 20 Tachwedd 2018

Dogfennau ategol:

2.3

PTN3 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - Treth Tir Gwag - 20 Tachwedd 2018

Dogfennau ategol:

(09.15-10.15)

3.

Y Model Buddsoddi Cydfuddiannol: Sesiwn Briffio Technegol

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru

Steve Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid Arloesol, Llywodraeth Cymru 

 

Papur 1 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau - Cyllid ar gyfer prosiectau seilwaith mawr - y Model Buddsoddi Cydfuddiannol - 18 Hydref 2018

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn briffio technegol ar y Model Buddsoddi Cydfuddiannol gan swyddogion o Lywodraeth Cymru, sef Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru; a Steve Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid Arloesol.

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i drafod strategaeth ariannu cyfalaf Llywodraeth Cymru maes o law.

 

(10.15-10.30)

4.

Bil Awtistiaeth (Cymru): trafod yr adroddiad drafft

Papur 2 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

(10.30-11.15)

5.

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): trafod y gwelliannau arfaethedig ar gyfer Cyfnod 2

Papur 3 – Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): Trafod y gwelliannau arfaethedig ar gyfer Cyfnod 2

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y gwelliannau arfaethedig y bydd yn eu cyflwyno i'r Bil Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) yng Nghyfnod 2, a chytunodd arnynt.

 

(11.15-11.30)

6.

Goblygiadau ariannol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) sydd i ddod

Papur 4 – Goblygiadau ariannol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) sydd i ddod

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor i benodi Ymgynghorydd Annibynnol i gynorthwyo'r Aelodau gyda'u gwaith craffu ariannol ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) sydd i ddod.

 

(11.30-11.45)

7.

Ariannu cyrff a ariennir yn uniongyrchol

Papur 5 – Ariannu cyrff a ariennir yn uniongyrchol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at gyrff a ariennir yn uniongyrchol ac at Lywodraeth Cymru yn gofyn am sylwadau ynghylch y cyfarwyddyd a'r arweiniad a ddarperir gan y Pwyllgor wrth iddynt bennu eu hamcangyfrifon.

 

(11.45-12.00)

8.

Trafod y flaenraglen waith

Papur 6 - y flaenraglen waith: tymor y gwanwyn 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.

 

(12.00-12.05)

9.

Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Nododd y Pwyllgor yr offeryn statudol.