Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/04/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09.00-09.30

1.

Y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): Sesiwn friffio breifat

Dr Toby James, Prifysgol East Anglia, Cynghorydd Arbenigol i'r Pwyllgor Cyllid   

 

Cofnodion:

1.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio breifat ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) gan Dr Toby James o Brifysgol East Anglia.

 

09.30

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC, Nick Ramsay AC a Neil Hamilton AC.

 

 

09.30-10.10

3.

Sesiwn graffu ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): Comisiwn y Cynulliad 1

  • Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad
  • Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid

 

Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Memorandwm Esboniadol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad a Nia Morgan, y Cyfarwyddwr Cyllid.

 

 

10.20-11.20

4.

Sesiwn graffu ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): Comisiwn y Cynulliad 2

  • Y Llywydd, Elin Jones AC
  • Anna Daniel, Pennaeth y Gwasanaeth Trawsnewid Strategol
  • Tom Jackson, Rheolwr Bil

 

Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Memorandwm Esboniadol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Llywydd, Elin Jones AC; Anna Daniel, Pennaeth y Gwasanaeth Trawsnewid Strategol a Tom Jackson, Rheolwr y Bil.

 

 

11.20

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

11.20-11.50

6.

Y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

11.50-12.00

7.

Trafod y flaenraglen waith

Papur 1 – Blaenraglen waith

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith.

 

12.00-12.10

8.

Ymchwiliad i ariannu cyrff a ariennir yn uniongyrchol: Ystyried yr ohebiaeth a gafwyd

Papur 2 – Cyrff a ariennir yn uniongyrchol: Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Drafft

Papur 3 – Cyrff a ariennir yn uniongyrchol: Llythyr at y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Papur 4 - Cyrff a ariennir yn uniongyrchol: Llythyr at gyrff a ariennir yn uniongyrchol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft a'r ohebiaeth arfaethedig at y cyrff a ariennir yn uniongyrchol, gan gytuno arnynt.