Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/09/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiant

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i’r cyfarfod.

 

(09:00-09:50)

2.

Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): Sesiwn dystiolaeth bellach

Jeremy Miles AC, Cwnsler Cyffredinol

Christopher Warner – Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfansoddiad a Chyfiawnder

Matthew Denham Jones – Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli Ariannol

 

Papur 1 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a gwelliannau drafft i'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) – 20 Medi 2019

Brîff ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol; Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr – Cyfansoddiad a Chyfiawnder; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr – Rheolaethau Ariannol, am Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru).

 

(10:00-11:00)

3.

Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): Sesiwn dystiolaeth bellach

Elin Jones AC, y Llywydd

Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Brîff ymchwil

 

 

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Elin Jones AC, y Llywydd; Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru; a Nia Morgan, y Cyfarwyddwr Cyllid, am Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru).

 

(11:00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Cymeradwywyd y cynnig.

 

(11:00-11:20)

5.

Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Eithriodd Mark Reckless ei hun ar gyfer yr eitem hon, ac ni chyfrannodd at adroddiad y Pwyllgor ar graffu ymhellach ar oblygiadau ariannol y Bil.

 

5.2 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11:20-11:35)

6.

Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Papur 2 – Adroddiad drafft

Papur 3 – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) – 30 Awst 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

 

(11:35-11:50)

7.

Papur cwmpasu: Effaith amrywiadau mewn trethi Cenedlaethol ac Is-genedlaethol

Papur 4 – Papur cwmpasu: Effaith amrywiadau mewn trethi cenedlaethol ac is-genedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y papur cwmpasu a chytunodd ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad.

 

(11:50-12:00)

8.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21: Y dull o gynnal gwaith craffu

Papur 5: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: Dull o graffu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull diwygiedig o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21.

 

(12.00-12.10)

9.

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at y Prif Weinidog - parodrwydd ar gyfer Brexit a chyllid yr UE - 20 Medi 2019

Papur 6 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at y Prif Weinidog – parodrwydd Brexit a chyllid yr UE – 20 Medi 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y llythyr.