Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 741KB) Gweld fel HTML (486KB)

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Cafwyd ymddiheuriadau gan Eluned Morgan AC.

 

1.2        Croesawodd y Cadeirydd Huw Irranca-Davies AC, a oedd yn dirprwyo ar ran Eluned Morgan AC.

 

(09.15)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(09.15)

3.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Chris Tudor-Smith – Uwch Swyddog Cyfrifol, Llywodraeth Cymru

Rhodri Jones – Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru

 

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Memorandwm esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) gan Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Chris Tudor-Smith, Uwch Swyddog Cyfrifol, Llywodraeth Cymru; a Rhodri Jones, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru.

 

(10.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd am weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:

Eitemau 5 a 9-12.

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.15)

5.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.45)

6.

Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 3

Brian Mayne, Ricardo Energy & Environment, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru – Effeithlonrwydd Adnoddau a Rheoli Gwastraff, Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff

Robert Little, Cyfarwyddwr Masnachol, MSS Group Ltd, Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff

Lee Marshall, Prif Swyddog Gweithredol, Pwyllgor Ymgynghorol Ailgylchu Awdurdodau Lleol

 

Papur 1 - Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff - tystiolaeth ysgrifenedig

Papur 2 - Pwyllgor Ymgynghorol Ailgylchi Awdurdodau Lleol - tystiolaeth ysgrifenedig

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) gan Brian Mayne, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru – Effeithlonrwydd Adnoddau a Rheoli Gwastraff, Ricardo Energy & Environment, ac aelod o'r Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff; a Lee Marshall, Prif Swyddog Gweithredol, Pwyllgor Ymgynghorol Ailgylchu Awdurdodau Lleol.

 

(11.45)

7.

Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 4

Clare McCallan, Rheolwr y Prosiect Treth Gwarediadau Tirlenwi, Cyfoeth Naturiol Cymru

Becky Favager, Rheolwr Gwastraff ac Adnoddau - Cyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Papur 3 – Cyfoeth Naturiol Cymru - tystiolaeth ysgrifenedig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) gan Clare McCallan, Rheolwr y Prosiect Treth Gwarediadau Tirlenwi, Cyfoeth Naturiol Cymru; a Becky Favager, Rheolwr Gwastraff ac Adnoddau - Cyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

7.2 Cytunodd Cyfoeth Naturiol Cymru i:

 

·         gadarnhau a fydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru yn ddogfen gyhoeddus; a

·         darparu nodyn ar safleoedd tirlenwi ledled Cymru sydd â thrwydded i waredu gwastraff peryglus.

 

 

(13.45)

8.

Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 5

Kim Gutteridge, Pennaeth Grantiau, Codi Arian Mawr- Cynllunio a Datblygu, RSPB

Dr Stephen Marsh-Smith, Afonydd Cymru

Dr Patrick Bishop, Uwch Ddarlithydd, Coleg y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Abertawe, Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y DU

James Byrne, Rheolwr Tirweddau Byw, Ymddiriedolaethau Natur Cymru

 

Papur 4 - RSPB Cymru - tystiolaeth ysgrifenedig

Papur 5 - Afonydd Cymru - tystiolaeth ysgrifenedig

Papur 6 - Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y DU - tystiolaeth ysgrifenedig

Papur 7 - Ymddiriedolaethau Natur Cymru - tystiolaeth ysgrifenedig

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) gan Kim Gutteridge, Pennaeth Grantiau, Codi Arian Mawr - Cynllunio a Datblygu, RSPB; Dr Stephen Marsh-Smith, Afonydd Cymru; Dr Patrick Bishop, Uwch Ddarlithydd, Coleg y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Abertawe, a Chymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y DU; a James Byrne, Rheolwr Tirweddau Byw, Ymddiriedolaethau Natur Cymru.

 

 

(14.45)

9.

Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).

 

(15.00)

10.

Gohebiaeth gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru: Cyfoeth Naturiol Cymru

Papur 8 - Llythyr gan y Cadeirydd at Archwilydd Cyffredinol Cymru – 16 Rhagfyr 2016

Papur 9 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at y Cadeirydd – 22 Rhagfyr 2016

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth hon a chytunodd i ysgrifennu at Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

(15.20)

11.

Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru): Trefn y broses drafod

Papur 10 - Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) - Trefn y broses drafod

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Cytunodd y Pwyllgor i ddilyn y drefn a ganlyn o ran trafod y gwelliannau a gyflwynir i'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) yng Nghyfnod 2:

 

Adrannau 2-13

Atodlen 2

Adrannau 14-17

Atodlen 3

Adran 18

Atodlen 4

Adrannau 19-30

Atodlenni 8-21

Adrannau 31-32

Atodlen 5

Adrannau 33-40

Atodlen 6

Adran 41

Atodlen 7

Adrannau 42-75

Atodlen 22

Adrannau 76-80

Adran 1

Atodlen 1

Teitl hir

 

 

(15.30)

12.

Goblygiadau ariannol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Papur 11 - Craffu Ariannol ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

12.1 Trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Cytunwyd y dylid gwahodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i'r Pwyllgor at ddibenion craffu pellach.