Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Amseriad disgwyliedig: Preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(9.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

(9.00-10.00)

3.

Trafod y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft

Papur 1 – Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft, a chytunodd i ysgrifennu at yr Ombwdsmon i ofyn am eglurhad ynghylch defnyddio darpariaethau penodol.

 

(10.00-10.40)

4.

Papur cwmpasu: Y broses gyllidebol ar gyfer deddfwriaeth

Papur 2 – Papur cwmpasu: Y broses gyllidebol ar gyfer deddfwriaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor bapur cwmpasu ar y broses gyllidebol ar gyfer deddfwriaeth.

 

(10.40-11.00)

5.

Diwygio Rheolau Sefydlog: Proses y gyllideb

Papur 3 – Protocol diwygiedig ynghylch y gyllideb

Papur 4 – Llythyr drafft at y Pwyllgor Busnes

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i'r Cadeirydd ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes gyda phrotocol diwygiedig y gyllideb.

 

(11.00-11.15)

6.

Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016-17 – tanwariant ym Mhenderfyniad y Bwrdd Taliadau

Papur 5 – Llythyr gan Gomisiwn y Cynulliad at y Cadeirydd - tanwariant ym Mhenderfyniad y Bwrdd Taliadau – 28 Mawrth 2017

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Comisiwn yn gofyn am ragor o wybodaeth a gwahodd y Prif Weithredwr newydd i un o gyfarfodydd y Pwyllgor.

 

(11.15-11.25)

7.

Trosolwg o recriwtio Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

Papur 6 – Trosolwg o Recriwtio Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog a Chadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru.

 

(11.25-11.30)

8.

Cyfyngiadau statudol ar gyflogi cyn-Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur 7 – Cyfyngiadau statudol ar gyflogi cyn-Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cyfyngiadau a chytunodd i ysgrifennu at Archwilydd Cyffredinol Cymru cyn eu cyhoeddi.

 

(11.30-12.15)

9.

Archwilydd Cyffredinol Cymru: Cyfrifon Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2015-16: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 8 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau.

 

(12.15-12.30)

10.

Ymchwiliad i Fil y Diddymu Mawr a'i oblygiadau i Gymru

Papur 9 – Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol – 27 Ebrill 2017

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch meysydd y bydd gan y Pwyllgor Cyllid ddiddordeb ynddynt.