Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 286KB) Gweld fel HTML (148KB)

 

 

Penderfynodd y Pwyllgor ar 13 Gorffennaf 2017 i wahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 1-3 y cyfarfod.

(09.00-09.30)

1.

Trafod y dull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19

Papur 1 - Trafod y dull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.

 

1.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft er mwyn llywio gwaith craffu'r Pwyllgor; fe’i cynhelir yn ystod toriad yr haf.

 

(09.30-09.45)

2.

Trafod y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft

Papur 2 - Ystyried Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus  (Cymru) Drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor i fwrw ymlaen i gyflwyno'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

 

(09.45-10.15)

3.

Goruchwylio gwaith Swyddfa Archwilio Cymru: Penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur 3 - Trafod penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y broses ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol nesaf Cymru.

 

(10.15)

4.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(10.15)

5.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nodwyd y papurau.

 

(10.15-11.15)

6.

Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: Sesiwn dystiolaeth 10 (Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol)

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Jonathan Price - Prif Economegydd, Llywodraeth Cymru

Andrew Hobden - y Tîm Arfarnu a Dadansoddi Economaidd, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol; Jonathan Price, Prif Economegydd Llywodraeth Cymru; ac Andrew Hobden, y Tîm Arfarnu a Dadansoddi Economaidd, Llywodraeth Cymru.

 

(11.15)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.15-11.45)

8.

Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: Trafod y materion allweddol

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a'r materion allweddol a oedd wedi codi o'r ymchwiliad.

 

(11.45 - 11.55)

9.

Gweithredu Deddf Cymru 2017: Prif ddiwrnod penodedig

Papur 4 - Llythyr gan y Llywydd - Gweithredu Deddf Cymru 2017 - 11 Gorffennaf 2017

Papur 5 – Nodyn cyngor cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Ystyriodd y Pwyllgor y prif ddiwrnod penodedig arfaethedig a chytunodd i ymateb i'r Llywydd.