Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 998KB) Gweld fel HTML (445KB)

 

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2        Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC.

 

(09.00)

2.

Papur(au) i'w nodi:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papur.

 

2.1

PTN1 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Adroddiad ar Alldro 2016-17 - 30 Medi 2017

Dogfennau ategol:

(09.00-10.00)

3.

Amcangyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: 2018-19 Sesiwn dystiolaeth

Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredol 

David Meaden, Cyfrifydd Ariannol

 

Papur 1 - Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2018-19

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Nick Bennett, Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredu; a David Meaden, Cyfrifydd Ariannol ar Amcangyfrifon Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2018-19.

 

3.2 Cytunodd yr Ombwdsmon i ddarparu rhagor o fanylion ar gyfran y cwynion a gadarnhawyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

 

(10.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 5, 8 a 9

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.00-10.15)

5.

Amcangyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: 2018-19 Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.15-11.15)

6.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19 Sesiwn dystiolaeth 2 (Prifysgol Bangor)

Dr Edward Jones, Prifysgol Bangor

Dr Helen Rogers, Prifysgol Bangor

 

Papur 2 - Prifysgol Bangor: Gwaith craffu a sicrhau annibynnol ar ragolygon trethi datganoledig i Gymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Edward Jones a Dr Helen Rogers o Brifysgol Bangor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19.

 

(11.15-12.15)

7.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19 Sesiwn dystiolaeth 3 (Trysorlys Cymru)

Andrew Jeffreys, Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru

Dyfed Alsop, Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru (ACC)

Julian Revell, Pennaeth Dadansoddi Cyllidol, Trysorlys Cymru

 

Papur 3 - Adroddiad ar Bolisi Trethi Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Andrew Jeffreys, Trysorlys Cymru; Dyfed Alsop, Prif Weithredwr, Awdurdod Refeniw Cymru; a Julian Revell, Pennaeth Dadansoddi Cyllidol, Trysorlys Cymru ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19.

 

7.2 Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymrwymiad a wnaed yn ystod Cyfnod 2 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), i lunio map diffiniol y Gofrestrfa Tir o ffin Cymru.

 

(12.15-12.25)

8.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19 Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.25-12.30)

9.

Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a dderbyniwyd yn ystod sesiwn yr wythnos diwethaf ar gyllideb ddrafft Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2018-19.