Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/11/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd Jane Hutt AC, a oedd yn bresennol fel dirprwy yn
lle Eluned Morgan AC, yn dilyn ei dyrchafiad i'r Llywodraeth fel Gweinidog y
Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. |
|
(09.00) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
(09.00) |
PTN1 – Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: amcangyfrif ar gyfer 2018-19 – 27 Hydref 2017 Dogfennau ategol: |
|
(09.00-09.40) |
Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: sesiwn dystiolaeth 6 (y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy) Anne Meikle, Cadeirydd y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy
(WWF Cymru) Annie Smith, y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy (RSPB Cymru) Hayley Richards, y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy (Oxfam
Cymru) Papur 1 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cymerodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan Anne Meikle, Cadeirydd y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy (WWF
Cymru); Annie Smith, y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy (RSPB Cymru); a Hayley
Richards, y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy (Oxfam Cymru) ar gyllideb ddrafft
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19. |
|
(09.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5 ac eitemau 7-10 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09.40-09.55) |
Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10.00-11.00) |
Swyddfa Archwilio Cymru ac adroddiad blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2016-17 ac amcangyfrif o incwm a threuliau ar gyfer 2018-19: sesiwn dystiolaeth Huw Vaughan Thomas – Archwilydd Cyffredinol Cymru Isobel Garner - Cadeirydd, Swyddfa Archwilio Cymru Kevin Thomas - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol,
Swyddfa Archwilio Cymru Steve O'Donoghue - Cyfarwyddwr Cyllid, Swyddfa Archwilio
Cymru Papur 2 - Amcangyfrif o'r incwm a'r gwariant ar gyfer y
flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2019 Papur 3 - Achos Busnes: Dadansoddiadau data Papur 4 - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17 Papur 5 - Adroddiad Terfynol ar Ganfyddiadau'r Archwiliad
ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2017 Papur 6 - Cynllun Blynyddol 2017-18 Papur 7 - Adroddiad Dros Dro - Asesiad o'r cynnydd a
wnaed o safbwynt ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2017-18 yn y cyfnod rhwng 1
Ebrill a 30 Medi 2017 Papur 8 - Memorandwm Esboniadol i'r Pwyllgor Cyllid
ynghylch amrywio amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru am y flwyddyn yn diweddu
31 Mawrth 2018 Papur 9 - Y drefn ffioedd archwilio cyhoeddus gymhleth
yng Nghymru - achos dros newid Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd
Cyffredinol Cymru; Isobel Garner, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru; Kevin
Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Swyddfa Archwilio Cymru; a Steve
O'Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid Swyddfa Archwilio Cymru. |
|
(11.00-11.15) |
Swyddfa Archwilio Cymru ac adroddiad blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2016-17 ac amcangyfrif o incwm a threuliau ar gyfer 2018-19: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(11.15-11.35) |
Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016: Offerynnau Statudol Papur 10 - Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru)
2017 Papur 11 - Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Gweinyddu) (Cymru) 2017 Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir)
(Cymru) 2017 Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir)
(Cymru) 2017 - Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Gweinyddu) (Cymru) 2017 Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Gweinyddu) (Cymru) 2017 -
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau statudol a ganlyn, gan gytuno i
gyflwyno adroddiad arnynt: ·
Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017: a ·
Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Gweinyddu) (Cymru) 2017. |
|
(11.35-11.45) |
Goblygiadau ariannol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) Papur 12 – Craffu ariannol ar y Bil Iechyd y Cyhoedd
(Isafbris am Alcohol) (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol Bil Iechyd Cyhoeddus (Isafbris
am Alcohol) (Cymru) a chytunodd i wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer gwaith craffu pellach. |
|
(11.45-12.00) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19: trafod ymateb Comisiwn y Cynulliad Papur 13 - Ymateb Comisiwn y Cynulliad i adroddiad y
Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2018-19 Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Comisiwn y Cynulliad cyn y ddadl yn y
Cyfarfod Llawn y prynhawn hwnnw. |