Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/01/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC.

 

(09.30)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio - Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) - 12 Rhagfyr 2017

Dogfennau ategol:

2.2

Llythyr gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol – cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 – 14 Rhagfyr 2017

Dogfennau ategol:

2.3

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi – 13 Rhagfyr 2017

Dogfennau ategol:

2.4

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) – 15 Rhagfyr 2017

Dogfennau ategol:

2.5

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) – 21 Rhagfyr 2017

Dogfennau ategol:

2.6

Y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru): Nodyn technegol

Dogfennau ategol:

(09.30-10.15)

3.

Datganoli pwerau cyllidol i Gymru: Sesiwn dystiolaeth 1 (Swyddfa Archwilio Cymru)

Mike Usher, Cyfarwyddwr ac Arweinydd Sector, Iechyd a Llywodraeth Ganolog, Swyddfa Archwilio Cymru

Richard Harries, Cyfarwyddwr, Archwilio Ariannol, Swyddfa Archwilio Cymru

Matthew Coe, Rheolwr Archwilio, Swyddfa Archwilio Cymru

 

Papur 1 - Archwilydd Cyffredinol Cymru - Datganoli Cyllidol yng Nghymru: Diweddariad ar baratoadau i'w weithredu

Papur 2 - Ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mike Usher, Cyfarwyddwr ac Arweinydd Sector, Iechyd a Llywodraeth Ganolog; Richard Harries, Cyfarwyddwr, Archwilio Ariannol; a Matthew Coe, Rheolwr Archwilio, ynghylch y paratoadau ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru.

 

(10.15-11.15)

4.

Datganoli pwerau cyllidol i Gymru: Sesiwn dystiolaeth 2 (Llywodraeth Cymru)

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru

Claire McDonald, Rheolwr Cynllun Gweithredu, Awdurdod Cyllid Cymru (ACC)

 

Papur 3 - Y trydydd adroddiad blynyddol gan Weinidogion Cymru ynghylch cyflwyno a gweithredu Rhan 2 (Cyllid) Deddf Cymru 2014

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru; a Claire McDonald, Rheolwr Rhaglen Weithredu, Awdurdod Cyllid Cymru, ynghylch y paratoadau ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru.

 

4.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu dadansoddiad o weithlu Awdurdod Cyllid Cymru o ran niferoedd, mathau o gontractau ac amrywiaeth.

 

(11.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.15-11.30)

6.

Datganoli pwerau cyllidol i Gymru: trafod y dystiolaeth

Papur 4 - Y trydydd adroddiad blynyddol gan Lywodraeth y DU ynghylch cyflwyno a gweithredu Rhan 2 (Cyllid) Deddf Cymru 2014

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

6.2 Nododd y Pwyllgor fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwrthod ei wahoddiad i ddarparu tystiolaeth lafar ynghylch trydydd adroddiad blynyddol Llywodraeth y DU ynghylch rhoi ar waith a gweithredu Rhan 2 (Cyllid) Deddf Cymru 2014.

 

(11.30-11.45)

7.

Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017: Offerynnau Statudol ym maes treth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 a chytunodd i gyflwyno adroddiad arnynt.

 

(11.45-12.00)

8.

Gohebiaeth gan Gomisiwn y Cynulliad

Papur 6 - 2il Gyllideb Atodol ar gyfer 2017-18 Comisiwn y Cynulliad - Memorandwm Esboniadol

Papur 7 - Tanwariant rhagamcanol: Penderfyniad y Bwrdd Taliadau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor gais cyllideb atodol Comisiwn y Cynulliad a'r tanwariant rhagamcanol mewn perthynas ag arian a dynnwyd i ariannu penderfyniad y Bwrdd Taliadau.

 

(12.00-12.15)

9.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2017-18

Papur 8 - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: 2il Gyllideb Atodol ar gyfer 2017-18 - Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Nododd y Pwyllgor gais cyllideb atodol yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

(12.15-12.45)

10.

Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: Adolygiad o broses newydd y gyllideb

Papur 9 - Adolygiad o'r broses gyllideb newydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Adolygodd y Pwyllgor y broses newydd ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft.

 

(12.45-13.00)

11.

Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n mynd gyda deddfwriaeth: Ymateb Llywodraeth Cymru

Papur 10 - Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

(13.00-13.30)

12.

Y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Papur 11 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

12.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau.