Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 31/01/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC, David Rees AC a Neil Hamilton AC.

 

(10.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

2.1

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at y Cadeirydd - Recriwtio Awdurdod Refeniw Cymru - 18 Ionawr 2018

Dogfennau ategol:

(10.00-10.40)

3.

Gwrandawiad Cyn Enwebu - Archwilydd Cyffredinol Cymru

Adrian Crompton - Ymgeisydd a Ffafrir i fod yn Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Papur 1 - Curriculum Vitae ar gyfer Adrian Crompton

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cynhaliodd y Pwyllgor wrandawiad cyn enwebu'r ymgeisydd a ffafrir ar gyfer swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef Adrian Crompton.

 

(10.40)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 5 a 7 a'r cyfarfod ar 8 Chwefror 2018

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.40-10.55)

5.

Gwrandawiad Cyn Enwebu - Archwilydd Cyffredinol Cymru: Trafod y gwrandawiad

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor briodoldeb yr ymgeisydd a ffafrir a chytunodd i drafod y mater eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

(11.00-11.45)

6.

Datganoli pwerau cyllidol i Gymru: Sesiwn dystiolaeth 4 (Cyllid a Thollau EM)

Jim Harra, Ail Ysgrifennydd Parhaol, HMRC

Sarah Walker, Dirprwy Gyfarwyddwr, Datganoli, HMRC

 

Papur 2 - Llythyr gan HMRC at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - 6 Rhagfyr 2017

Papur 3 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at HMRC - 13 Rhagfyr 2017

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jim Harra, Ail Ysgrifennydd Parhaol Cyllid a Thollau EM; a Sarah Walker, Dirprwy Gyfarwyddwr, Datganoli, Cyllid a Thollau EM ar ddatganoli pwerau cyllidol i Gymru.

 

(11.45-12.00)

7.

Datganoli pwerau cyllidol i Gymru: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.