Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/02/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC.

 

(09.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN1 - Llythyr gan Awdurdod Cyllid Cymru - Teitlau tir trawsffiniol ac ad-daliadau i drethdalwyr gan yr Awdurdod - 30 Ionawr 2018

Dogfennau ategol:

2.2

PTN2 - Llythyr gan y Cadeirydd at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) - 8 Ionawr 2018

Dogfennau ategol:

2.3

PTN3 - Llythyr gan y Cadeirydd at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) - 30 Ionawr 2018

Dogfennau ategol:

2.4

PTN4 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) - 9 Chwefror 2018

Dogfennau ategol:

(09.00-10.20)

3.

Ail Gyllideb Atodol 2017-18: sesiwn dystiolaeth

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli Ariannol, Llywodraeth Cymru

 

Papur 1 - Cynnig y Gyllideb ar gyfer Ail Gyllideb Atodol 2017-18

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid; Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol, Llywodraeth Cymru ar Ail Gyllideb Atodol 2017-18.

 

(10.20)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.20-10.30)

5.

Ail Gyllideb Atodol 2017-18: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.30-10.40)

6.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Papur 2 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno yn amodol ar rai mân newidiadau.

 

(10.40-10.45)

7.

Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016: Offerynnau Statudol ym maes treth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Trefniadau Talu'n Ôl) (Cymru) 2018 a chytunodd i adrodd.

 

(10.45-12.30)

8.

Proses y gyllideb ar gyfer deddfwriaeth

Daniel Greenberg - Bargyfreithiwr sy'n arbenigo mewn deddfwriaeth.

 

Papur 4 - Proses y gyllideb ar gyfer deddfwriaeth: Papur trafod

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn anffurfiol gyda Daniel Greenberg, bargyfreithiwr sy'n arbenigo mewn deddfwriaeth.