Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/03/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC.

 

(09.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN1 - Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio i'r Pwyllgor Cyllid - Y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) - 21 Chwefror 2018

Dogfennau ategol:

(09.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 4, 5 ac 6

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.00-09.15)

4.

Ail Gyllideb Atodol 2017-18: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 1 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau.

 

(09.15-09.25)

5.

Enwebiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 2 – Adroddiad drafft

Papur 3 - Ymateb gan lywodraeth leol – 22 Chwefror 2018

Papur 4 - Cynnig drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau.

 

(09.25-09.40)

6.

Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio: Trafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad

Papur 5 - Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad

Pecyn Ymgynghori (Saesneg)

Pecyn Ymgynghori (Cymraeg)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig.

 

(09.40-10.30)

7.

Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio: Sesiwn dystiolaeth 1 (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru)

Y Cynghorydd Huw David, Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Y Cynghorydd Susan Elsmore, Dirprwy Lefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, Cyngor Caerdydd

Dave Street, Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

 

Papur 6 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru / Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Gohiriwyd yr eitem hon yn sgil y tywydd garw. Cytunodd y Pwyllgor i aildrefnu'r sesiwn dystiolaeth.