Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/03/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC a Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn  Cymru.

(09.00-09.50)

2.

Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio: Sesiwn dystiolaeth 3 (Age Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru)

Victoria Lloyd, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro, Age Cymru

Kate Cubbage, Uwch Reolwr Materion Allanol, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

 

Papur 1 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Age Cymru

Papur 2 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Victoria Lloyd, Prif Swyddog Gweithredol Interim, Age Cymru; a Kate Cubbage, Uwch Reolwr Materion Allanol, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar ei ymchwiliad i gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio.

 

2.2 Cytunodd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i ddarparu rhagor o fanylion ar:

 

·         y newidiadau i gomisiynu gwasanaethau sy'n deillio o anghenion mwy cymhleth; a

·         cholli gwelyau seibiant.

(09.50-10.30)

3.

Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio: Sesiwn dystiolaeth 4 (Fforwm Gofal Cymru)

Mary Wimbury, Prif Weithredwr, Fforwm Gofal Cymru

Mario Kreft, Cadeirydd, Fforwm Gofal Cymru

Sanjiv Joshi, Aelod o'r Bwrdd, Fforwm Gofal Cymru

 

Papur 3 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Fforwm Gofal Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mary Wimbury, Prif Weithredwr, Fforwm Gofal Cymru; Mario Kreft, Cadeirydd, Fforwm Gofal Cymru; a Sanjiv Joshi, Aelod o'r Bwrdd, Fforwm Gofal Cymru ar ei ymchwiliad i gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio.

 

3.2 Cytunodd Fforwm Gofal Cymru i ddarparu copi o adroddiad diweddar gan Knight Frank.

(10.30-11.10)

4.

Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio: Sesiwn dystiolaeth 5 (Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru)

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

Papur 4 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Caiff y sesiwn dystiolaeth ei hail-drefnu ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

(11.10)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

(11.10-11.20)

6.

Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

(11.20-11.40)

7.

Trafod y flaenraglen waith

Papur 5 – Blaenraglen waith

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr haf.

(11.40-12.00)

8.

Proses y gyllideb ar gyfer deddfwriaeth – Papur cwmpasu

Papur 6 – Proses y gyllideb ar gyfer deddfwriaeth – Papur cwmpasu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor bapur cwmpasu ar gostau deddfwriaeth a chytunodd i gynnal ymchwiliad.

(12.00-12.10)

9.

Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016: Offerynnau Statudol ym maes treth

Papur 7 – Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Cofnodion Treth Gwarediadau Tirlenwi) (Cymru) 2018

 

Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Cofnodion Treth Gwarediadau Tirlenwi) (Cymru) 2018

Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Cofnodion Treth Gwarediadau Tirlenwi) (Cymru) 2018 - Memorandwm Esboniadol

 

Papur 8 - Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018

 

Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018

Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018 – Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau statudol a ganlyn, gan gytuno i gyflwyno adroddiad arnynt.