Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/04/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC, David Rees AC a Neil Hamilton AC.

 

(09.30)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN1 - Llythyr gan Swyddfa Archwilio Cymru - Adolygiad o daliadau ymadael yng Nghynllun Ymadael Gwirfoddol 2016-17 - 19 Mawrth 2018

Dogfennau ategol:

(09.30-10.20)

3.

Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio: Sesiwn dystiolaeth 5 (CLlLC a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru)

Y Cynghorydd Huw David, Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Y Cynghorydd Susan Elsmore, Dirprwy Lefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, Cyngor Caerdydd

Dave Street, Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Papur 1 - CLlLC ac ADSS Cymru: Tystiolaeth ysgrifenedig

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cynghorydd Huw David, Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr; Y Cynghorydd Susan Elsmore, Dirprwy Lefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, Cyngor Caerdydd; a Dave Street, Llywydd, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar ei ymchwiliad i'r gost o ofalu am boblogaeth sy'n heneiddio.

 

(10.30-11.10)

4.

Cost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio: Sesiwn dystiolaeth 6 (Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru)

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Papur 2 - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Tystiolaeth ysgrifenedig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar ei ymchwiliad i gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio.

 

4.2 Cytunodd y Comisiynydd i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda manylion pellach am y pwysau costau sy'n wynebu'r gwasanaethau cymdeithasol.

 

(11.10)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 25 Ebrill 2018

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.10-11.20)

6.

Cost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.20-11.30)

7.

Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017: Offeryn Statudol Treth:

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor yr offeryn statudol.