Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/06/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC.

 

(09.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN1 - Llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y Cadeirydd - Ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru - 21 Mai 2018

Dogfennau ategol:

2.2

PTN2 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol at y Cadeirydd - Dathlu 10 mlynedd o Ddatganoli Pwerau Cyllidol - 24 Mai 2018.

Dogfennau ategol:

2.3

PTN3 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol - Dathlu 10 mlynedd o Ddatganoli Pwerau Cyllidol - 25 Mai 2018.

Dogfennau ategol:

2.4

PTN4 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru): Fframwaith Cyllidol - 4 Mehefin 2018

Dogfennau ategol:

2.5

PTN5 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - Goblygiadau ar gyfer Cyllidebau 2019-2020 a 2020-2021 - 7 Mehefin 2018

Dogfennau ategol:

(09.00-09.50)

3.

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru): sesiwn dystiolaeth

Huw Irranca-Davies AC, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol

Owain Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar, Llywodraeth Cymru

Faye Gracey, Pennaeth Dadansoddi Polisi, Llywodraeth Cymru

 

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Irranca-Davies AC, y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol; Owain Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar, Llywodraeth Cymru; a Faye Gracey, Pennaeth Dadansoddi Polisi, Llywodraeth Cymru ar y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru).

 

(09.50)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 5, 9 ac 10

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.50-10.00)

5.

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.00-10.40)

6.

Ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 1 (Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru)

Julie Morgan AC, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru

Dr Grahame Guilford, Llysgennad Cyllid yr UE

Sioned Evans, Prif Weithredwr, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru

 

Papur 1 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru

Papur 2 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Dr Grahame Guilford

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Julie Morgan AC, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru; Dr Grahame Guilford, Llysgennad Cyllid yr Undeb Ewropeaidd; a Sioned Evans, Prif Weithredwr Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ar ei ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru.

 

(10.40-11.20)

7.

Ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru)

Y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd, Cyngor Abertawe a Dirprwy Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a llefarydd ar Ddatblygu Economaidd, Ewrop ac Ynni

Tim Peppin, Cyfarwyddwr Materion Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Papur 3 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Dirprwy Arweinydd a llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Ddatblygu Economaidd, Ewrop ac Ynni; a Tim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ei ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru.

 

 

(11.20-12.00)

8.

Ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 3 (Dr Hywel Ceri Jones)

Dr Hywel Ceri Jones, Cyn Lysgennad Cyllid Ewropeaidd

 

Cofnodion:

8.1 Cafodd sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor gyda Dr Hywel Ceri Jones, Cyn-lysgennad Cyllido'r UE ei chanslo oherwydd salwch.  Yn lle hynny, cyflwynodd Dr Hywel Ceri Jones dystiolaeth ysgrifenedig i lywio ymchwiliad y Pwyllgor.

 

(12.00-12.20)

9.

Ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth

Papur 4 - Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad

Pecyn ymgynghori

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.20-12.30)

10.

Ymchwiliad i’r tanwariant sy’n deillio o Benderfyniadau’r Bwrdd Taliadau: Trafod ymateb Comisiwn y Cynulliad

Papur 5 - Ymateb Comisiwn y Cynulliad – 8 Mehefin 2018

Papur 6 – Llythyr gan y Bwrdd Taliadau - Adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau: Hyblygrwydd y lwfansau – 6 Mehefin 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Comisiwn y Cynulliad a chanlyniad adolygiad y Bwrdd Taliadau o gefnogaeth staffio i'r Aelodau.