Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/06/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC, David Rees AC a Neil
Hamilton AC. |
|
(09.30) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papur. |
|
(09.30-10.15) |
Ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 4 (Sefydliad Bevan) Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan Papur 1 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Sefydliad Bevan Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Victoria Winckler, Cyfarwyddwr
Sefydliad Bevan, fel rhan o'i ymchwiliad i baratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn
disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru. |
|
(10.15-11.00) |
Ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 5 (Y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth) Alan Bermingham, y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth Papur 2 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus
a Chyfrifyddiaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Alan Bermingham o'r Sefydliad
Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth fel rhan o'i ymchwiliad i
baratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru. |
|
(11.00-11.45) |
Ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 6 Yr Athro Steve Fothergill, Prifysgol Hallam, Sheffield Yr Athro David Bell, Prifysgol Stirling Yr Athro Terry Marsden, Prifysgol Caerdydd Papur 3 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Yr Athro Steve Fothergill Papur 4 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Yr Athro David Bell Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Steve Fothergill o
Brifysgol Sheffield Hallam, yr Athro David Bell o Brifysgol Stirling a'r Athro
Terry Marsden o Brifysgol Caerdydd fel rhan o'i ymchwiliad i baratoadau ar
gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru. |
|
(11.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.45-12.00) |
Ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.00-12.30) |
Dull ar gyfer Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20 Papur 5 - Dull ar gyfer Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru
2019-20 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth
Cymru 2019-20, gan gytuno: ·
i gyhoeddi crynodeb o'r trafodaethau â rhanddeiliaid yn y digwyddiad a
gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar 7 Mehefin 2018; ·
i ysgrifennu at bwyllgorau polisi eraill, gan nodi nifer o themâu i graffu
arnynt; ac ·
i ddarparu cyngor arbenigol ynghylch cyfradd treth incwm Cymru. |