Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/07/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC a Nick Ramsay AC.

 

1.2 Croesawodd y Cadeirydd Mark Reckless AC, a oedd yn bresennol fel dirprwy ar ran Nick Ramsay AC.

 

(09.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papur.

 

(09.00-10.00)

3.

Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio: Sesiwn dystiolaeth 8 (Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid)

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Julian Revell, Pennaeth Dadansoddi Cyllidol

Georgina Haarhoff, Pennaeth yr Is-adran Drethi: Polisi, Strategaeth ac Ymgysylltu

 

Papur 1 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Papur 2 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Adroddiad yr Athro Gerald Holtham 'Talu am Ofal Cymdeithasol' - 28 Mehefin 2018

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid; Julian Revell, Pennaeth Dadansoddi Cyllidol; a Georgina Haarhoff, Pennaeth yr Is-adran Drethi: Polisi, Strategaeth ac Ymgysylltu, fel rhan o'i ymchwiliad i gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio.

 

3.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i rannu manylion y pum ffrwd waith benodol a'r cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp rhyng-Weinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol.

 

(10.10-11.10)

4.

Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio: Sesiwn dystiolaeth 9 (Yr Athro Gerald Holtham)

Gerald Holtham, Athro Hodge mewn Economi Rhanbarthol

 

Talu am ofal cymdeithasol: Adroddiad annibynnol gan yr Athro Gerald Holtham

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Gerald Holtham fel rhan o'i ymchwiliad i gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio.

 

(11.10)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.10-11.30)

6.

Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio: Trafod y materion allweddol

Papur 3 - Materion allweddol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion. Bydd yr adroddiad drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf.

 

(11.30-11.50)

7.

Ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru: Y prif faterion

Papur 4 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - Buddsoddiad Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit - 2 Gorffennaf 2018

Papur 5 - Materion allweddol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a thrafododd y materion allweddol. Bydd yr adroddiad drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf.

 

(11.50-12.00)

8.

Trafod Offerynnau Statudol Treth

Papur 6 - Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018 - Briff Cyfreithiol Cryno

Papur 7 - Rheoliadau DeddfaCasglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaeth Atodol) 2018 - Briff Cyfreithiol Cryno

 

Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) (Diwygio) 2018

Memorandwm esboniadol

Rheoliadau Deddfa Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaeth Atodol) 2018  

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor yr offerynnau statudol.

 

(12.00-12.15)

9.

Trafod y flaenraglen waith

Papur 8 – Blaenraglen waith: Hydref 2018

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.