Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/10/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Yn dilyn ei etholiad fel Cadeirydd dros dro ar 3 Hydref 2018, croesawodd Llyr Gruffydd AC yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC a Neil Hamilton AC. Roedd Llyr Gruffydd AC yn dirprwyo ar ran Steffan Lewis AC.

1.3 Roedd Helen Mary Jones AC yn bresennol yn y cyfarfod gyda chaniatâd y Cadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.49.

 

(09.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN1 - Llythyr gan y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 11 Hydref 2018

Dogfennau ategol:

(9.00-10.00)

3.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: Sesiwn Dystiolaeth 3

Dr Edward Jones, Prifysgol Bangor

Dr Helen Rogers, Prifysgol Bangor

 

Prifysgol Bangor: Gwaith craffu a sicrhau annibynnol ar ragolygon trethi datganoledig i Gymru 2018

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Edward Jones a Dr Helen Rogers o Brifysgol Bangor ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20.

 

(10.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.00-10.15)

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.15-10.30)

6.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Papur 1 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai mân newidiadau.

 

(10.30-10.45)

7.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2019-20: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 2 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai mân newidiadau.

 

(10.45-11.15)

8.

Recriwtio Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

Papur 1 – Prosesau Recriwtio Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu ar gyfer recriwtio dau aelod anweithredol o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, a chytunodd arno.

 

(11.15-11.20)

9.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: Dull craffu

Papur 2 - Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: Dull craffu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cymerodd y Pwyllgor y camau a ganlyn:

·         nododd y bydd y sesiwn dystiolaeth gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol bellach yn cael ei chynnal ar 7 Tachwedd 2018;

·         cytunodd ar enwau'r Aelodau a fydd yn mynd i'r cyfarfod ar 15 Tachwedd ynghylch asesiadau effaith yn y gyllideb. Cynhelir y cyfarfod hwnnw ar y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau; a

·         chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am gyfarfod ychwanegol at ddibenion trafod ei adroddiad drafft ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20.

 

(11.20-11.30)

10.

Ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig: Datganoli toll teithwyr awyr i Gymru

Papur 5 – Ymateb drafft

Cofnodion:

10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig i ddatganoli toll teithwyr awyr i Gymru.