Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/10/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Yn
dilyn ei etholiad fel Cadeirydd dros dro ar 3 Hydref 2018, croesawodd Llyr
Gruffydd AC yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC a Neil Hamilton AC. Roedd Llyr Gruffydd AC
yn dirprwyo ar ran Steffan Lewis AC. 1.3 Roedd
Helen Mary Jones AC yn bresennol yn y cyfarfod gyda chaniatâd y Cadeirydd dros
dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.49. |
|
(09.00) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd
y papurau eu nodi. |
|
PTN1 - Llythyr gan y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 11 Hydref 2018 Dogfennau ategol: |
||
(9.00-10.00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: Sesiwn Dystiolaeth 3 Dr Edward
Jones, Prifysgol Bangor Dr Helen
Rogers, Prifysgol Bangor Prifysgol Bangor: Gwaith craffu a sicrhau
annibynnol ar ragolygon trethi datganoledig i Gymru 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1
Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Edward Jones a Dr Helen Rogers o
Brifysgol Bangor ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20. |
|
(10.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.00-10.15) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10.15-10.30) |
Y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft Papur 1 – Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai mân newidiadau. |
|
(10.30-10.45) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2019-20: Trafod yr adroddiad drafft Papur 2 – Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai mân newidiadau. |
|
(10.45-11.15) |
Recriwtio Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru Papur 1 –
Prosesau Recriwtio Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1
Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu ar gyfer recriwtio dau aelod
anweithredol o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, a chytunodd arno. |
|
(11.15-11.20) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: Dull craffu Papur 2 -
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: Dull craffu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1
Cymerodd y Pwyllgor y camau a ganlyn: ·
nododd y
bydd y sesiwn dystiolaeth gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol bellach yn cael
ei chynnal ar 7 Tachwedd 2018; ·
cytunodd ar enwau'r Aelodau a fydd yn mynd i'r cyfarfod
ar 15 Tachwedd ynghylch asesiadau effaith yn y gyllideb. Cynhelir y cyfarfod
hwnnw ar y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau; a ·
chytunodd
i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am gyfarfod ychwanegol at ddibenion
trafod ei adroddiad drafft ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20. |
|
(11.20-11.30) |
Ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig: Datganoli toll teithwyr awyr i Gymru Papur 5 – Ymateb drafft Cofnodion: 10.1
Cytunodd y Pwyllgor ar ei ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig i
ddatganoli toll teithwyr awyr i Gymru. |