Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/03/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09:00

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges AC a Neil Hamilton AC.

 

09:00

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor ei siom ynghylch yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar weithredu Deddf Cymru 2014.

2.2 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN1 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Cysylltiadau rhyngsefydliadol rhwng y Cynulliad a Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

2.2

PTN2 - Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru - Gweithredu Deddf Cymru 2014

Dogfennau ategol:

09:00-10:00

3.

Sesiwn graffu y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): y Comisiwn Etholiadol

  • Elan Closs Stephens, Comisiynydd Etholiadol Cymru
  • Kieran Rix, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol y DU
  • Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru

 

FIN(5)-09-19 Papur 1: papur y Comisiwn Etholiadol ynghylch y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Elen Closs Stephens, Comisiynydd Etholiadol Cymru; Kieran Rix, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol y DU; a Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru.

 

3.2 Cytunodd y Comisiwn Etholiadol i ddarparu i'r Pwyllgor ffigurau am gostau wedi'u diweddaru yn gysylltiedig â'r broses o ddiwygio cofrestru etholiadol.

 

10:00-10:05

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac eitem 1 o'r cyfarfod ar 4 Ebrill.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

10:05-10:20

5.

Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.