Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/05/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.30)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar ôl eu llythyrau'n gwrthod gwahoddiad y Pwyllgor i roi tystiolaeth i'r ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru.

 

2.1

PTN 1 - Llythyr gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys - Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru - 2 Ebrill 2019

Dogfennau ategol:

2.2

PTN2 - Llythyr gan y Gwir Anrh. Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru - Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru - 10 Ebrill 2019

Dogfennau ategol:

(09.30-10.30)

3.

Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 1

Gerald Holtham, Athro Hodge mewn Economi Ranbarthol

Dr Stanimira Milcheva, Athro Cyswllt mewn Cyllid Seilwaith ac Eiddo Tirol, Coleg Prifysgol Llundain

 

Papur 1 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Gerald Holtham

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gerald Holtham, Athro Hodge mewn Economi Ranbarthol a Dr Stanimira Milcheva, Athro Cyswllt mewn Eiddo Tirol a Chyllid Seilwaith, Coleg Prifysgol Llundain ar ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru.

 

(10.45-11.45)

4.

Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 2

Peter Reekie, Prif Weithredwr, Scottish Futures Trust

 

Papur 2 - Tystiolaeth ysgrifenedig: Scottish Futures Trust

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Reekie, Prif Weithredwr, Scottish Futures Trust, ar ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru.

 

(11.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.45-12.00)

6.

Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.00-12.15)

7.

Dull ar gyfer Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2020-21 Llywodraeth Cymru

Papur 3 – Dull ar gyfer craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft 2020-21 Llywodraeth Cymru, a chytuno i wneud y canlynol:

·         cynnal digwyddiad rhanddeiliaid yn y canolbarth ar 27 Mehefin 2019;

·         ysgrifennu at bwyllgorau polisi eraill, gan nodi nifer o themâu ar gyfer gwaith craffu;

·         cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ddisgwyliadau rhanddeiliaid o gyllideb ddrafft 2020-21 i lywio gwaith craffu'r Pwyllgor, sydd i'w wneud dros doriad yr haf;

·         rhoi cyngor arbenigol mewn perthynas â'r polisi treth.

 

 

(12.15-12.30)

8.

Cyllideb Atodol 1af 2019-20 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Papur 4 - Memorandwm Esboniadol Cyllideb Atodol Gyntaf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2019-20

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor gais yr Ombwdsmon am gyllideb atodol a chytunodd i'w drafod ymhellach pan gyflwynir y cynnig cyllideb atodol.