Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/10/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiant

Cofnodion:

1.1     Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AC. Dirprwyodd Mick Antoniw AC ar ei ran.

 

(09:00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi 2019

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi 2019

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Nodwyd y papurau.

 

(09:00-09:30)

3.

Sesiwn dystiolaeth: Goblygiadau ariannol Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Tom Henderson, Uwch Reolwr Biliau, Llywodraeth Cymru

 

Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) [fel y’i cyflwynwyd]

Memorandwm Esboniadol

Briff ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, a Tom Henderson, Uwch Reolwr Biliau ar oblygiadau ariannol y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru).

 

(09:30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o ran o’r cyfarfod hwn (Eitem 5 ac Eitem 7) ac o’r cyfarfod yn ei gyfanrwydd ar 9 Hydref 2019

Cofnodion:

4.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

(09:30-09:40)

5.

Goblygiadau ariannol Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(09:45-11:00)

6.

Sesiwn dystiolaeth: Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2020-21

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Suzy Davies AC, Comisiynydd ar gyfer y Gyllideb a Llywodraethu, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Papur 1 - Cyllideb ddrafft Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2020-21

Briff ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21 gan Suzy Davies AC, Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu, Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, a Nia Morgan, y Cyfarwyddwr Cyllid.

 

(11:00-11:15)

7.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.