Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/01/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i'r cyfarfod, gan gynnwys Siân Gwenllian AC fel Aelod newydd o'r Pwyllgor Cyllid.

 

1.2        Diolchodd y Cadeirydd i Rhun ap Iorwerth am ei gyfraniad at y Pwyllgor.

 

1.3        Roedd David Melding AC yn bresennol ar ran Nick Ramsay AC.

 

(09:00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2020

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Nodwyd y cofnodion a'r papur.

 

2.1

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch goblygiadau ariannol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) – 14 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:

(09:00-10.00)

3.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1

Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Y Cynghorydd Anthony Hunt, llefarydd Cyllid ac Adnoddau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Papur 1 – Tystiolaeth ysgrifenedig gan y Comisiwn Etholiadol

Papur 2 – Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Briff ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd Cyllid ac Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Daniel Hurford, Pennaeth Polisi, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, o ran y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

 

 

(10:00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

(10:00-10:15)

5.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10:25-10:40)

6.

Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Trafod yr ymatebion i’r ymgynghoriad a’r tystion

Papur 3 – Papur eglurhaol

Ymatebion i'r ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion i’r ymgynghoriad a chytuno ar ei restr o dystion ar gyfer sesiynau tystiolaeth lafar.

 

(10:40-10:50)

7.

Taliadau cadw yn y sector adeiladu: y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad

Cofnodion:

7.1     Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am hynt yr ymchwiliad a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog gyda'i ganfyddiadau.