Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 1MB) Gweld fel HTML (259KB)

(14.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar. Dirprwyodd Paul Davies ar ei rhan.

1.3        Hefyd, croesawodd y Cadeirydd ddirprwyaeth o Senedd Botswana a fu’n arsylwi rhan o'r cyfarfod o'r oriel gyhoeddus.

 

(14.00 - 14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi:

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunwyd ar y cofnodion.

(14.05-15.30)

3.

Craffu ar Gyfrifon 2015-16: Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-05-16 Papur 1

 

Syr Derek Jones – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Gawain Evans – Cyfarwyddyr Cyllid, Llywodraeth Cymru

Peter Kennedy - Cyfarwyddyr Adnoddau Dynol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu'r Pwyllgor yn holi Syr Derek Jones, yr Ysgrifennydd Parhaol, Gawain Evans, y Cyfarwyddwr Cyllid a Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol  Llywodraeth Cymru ynghylch Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2015-16.

3.2 Cytunodd Syr Derek Jones i anfon rhagor o wybodaeth am y materion a ganlyn:

  • I ba raddau y mae awdurdodau lleol yn recriwtio pobl allanol sydd â’r arbenigedd priodol ym maes caffael
  • Ffigurau’n ymwneud â phrosesau caffael Llywodraeth Cymru a sector cyhoeddus Cymru
  • Eglurhad o’r amrywiadau yn y tanwariant o £153 miliwn yn y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fel y’i nodir yn nhabl y Crynodeb o'r Alldro, ac effaith y tanwariant yng Nghwmpas Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol pe na bai dau o’r cyrff iechyd wedi gorwario (ynghyd ag effaith penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi arian ychwanegol i ddau fwrdd iechyd a oedd wedi gorwario ac effaith hyn ar y gofyniad arian parod)
  • Cyfeirio’r Pwyllgor at lincs lle caiff rhagor o wybodaeth (gohebiaeth flaenorol) am Gronfa Risg Cymru
  • Hysbysu'r Pwyllgor am y camau disgyblu posibl yn ymwneud â thalu’r swm ofer o £1. 25m

Sut y caiff rhwymedigaethau cyfyngedig a heb eu meintoli eu cyfrifo o ran eglurder  

(15.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 5

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

(15.40-16.15)

5.

Craffu ar Gyfrifon 2015-16: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr aelodau’r dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y broses o graffu ar gyfrifon 2015-16.

Sylwadau i gloi

Gan nad oedd y tyst a oedd i fod yn bresennol yn y cyfarfod ar 10 Hydref ar gael, cytunodd y Pwyllgor i ohirio busnes nes y gall tyst fod yn bresennol ar 14 Tachwedd.

 

Bydd y Cadeirydd i ffwrdd ar fusnes y Cynulliad ar 17 Hydref a galwodd ar yr aelodau i enwebu cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod ar 17 Hydref, a hynny o dan Reolau Sefydlog 17.22 a 18.6. Enwebwyd Rhun ap Iorwerth gan Rhiannon Passmore ac fe'i hetholwyd.