Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 109KB) Gweld fel HTML (365KB)

 

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC. Nid chafwyd dirprwy ar ei ran.

1.3       Datganodd Lee Waters ei fod yn ffrind personol i Gadeirydd Maes Awyr Caerdydd. Datganodd Neil McEvoy fuddiant fel un a fu’n Gyfarwyddwr cwmni a wnaeth gais am grant gan Lywodraeth Cymru. Datganodd Mike Hedges fuddiant fel un a gyflogwyd yn flaenorol yn y diwydiant alwminiwm a dur.

 

(14.00 - 14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunwyd ar y cofnodion.

 

(14.05 - 15.05)

3.

Llywodraeth Cymru yn ariannu Kancoat Ltd: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Briff Ymchwil

 

James Price – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

Simon Jones – Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru

Mick McGuire - Cyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Holodd y Pwyllgor James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a  Chyfoeth Naturiol a Mick McGuire, Cyfarwyddwr, Sectorau a Busnes, Llywodraeth Cymru ynglŷn â Llywodraeth Cymru yn ariannu Kancoat Ltd.

3.2 Cytunodd James Price i wneud yr hyn a ganlyn:

  • Rhoi eglurhad o sut y cafodd y broses o gaenu coiliau metel ei chategoreiddio fel bod o fewn y sector busnes 'Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch' a sut y daethpwyd i’r casgliad hwnnw;
  • Anfon manylion am gyfradd methiant cyllid busnes yn Llywodraeth Cymru yn ystod y weinyddiaeth flaenorol;
  • Rhannu’r asesiadau risg a gynhaliwyd fel rhan o'r diwydrwydd dyladwy ar gyfer cais Kancoat; ac
  • Gwirio’r cofnod ynghylch ei ymateb ar natur y costau adfer ac os oes angen, anfon cywiriadau.

 

(15.05 - 15.25)

4.

Maes Awyr Caerdydd: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Pwyllgor y Pedwerydd Cynulliad

Briff Ymchwil

PAC(5)-09-16 Papur 1: Ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(5)-09-16 Papur 2: Ymateb Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyf

PAC(5)-09-16 Papur 3: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

James Price – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

Simon Jones – Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru

Mick McGuire - Cyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor blaenorol o'i ymchwiliad i Gaffael Maes Awyr Caerdydd.

4.2 Holodd y Pwyllgor James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol a Simon Jones, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru ynglŷn â Chaffael Maes Awyr Caerdydd.

4.3 Cytunodd James Price i wneud yr hyn a ganlyn:

  • Anfon manylion y dangosyddion perfformiad a ddatblygwyd gan Holdco;
  • Yr effaith y bydd Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn ei chael ar weithrediad Maes Awyr Caerdydd;
  • Rhannu’r ohebiaeth mewn perthynas â rôl Cadeirydd CIAL ar Fwrdd Holdco;
  • Anfon copi o'r Cynllun Meistr ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, pan fydd ar gael, yn 2017;
  • Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y system offer glanio; a
  • Dywedodd y byddai'n ailedrych ar y diwydrwydd dyladwy a roddwyd i Cardiff Aviation ac yn rhoi sylwadau yn unol â hynny.

 

(15.25 - 15.45)

5.

Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

Briff Ymchwil

PAC(5)-09-16 Papur 4

 

James Price – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

Simon Jones – Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru

Mick McGuire - Cyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor blaenorol o'i ymchwiliad i’r Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn.

5.2 Holodd y Pwyllgor James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol a Simon Jones, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth ac Isadeiledd TGCh, Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn.

 

 

(15.45 - 16.05)

6.

Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Seilwaith Band Eang y Genhedlaeth Nesaf: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-09-16 Papur 5

 

James Price – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

Simon Jones – Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru

Mick McGuire - Cyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor blaenorol o'i ymchwiliad i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf

6.2 Holodd y Pwyllgor James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol a Simon Jones, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru ynglŷn â buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf.

6.3 Cytunodd James Price i anfon rhagor o wybodaeth yn egluro'r mentrau sy'n cael eu cymryd i godi ymwybyddiaeth a chynyddu sgiliau digidol ar gyfer defnyddwyr y rhyngrwyd.

 

(16.05 - 16.25)

7.

Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

Briff Ymchwil

PAC(5)-09-16 Papur 6

 

James Price – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

Simon Jones – Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru

Mick McGuire - Cyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf gan  Lywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor blaenorol o'i ymchwiliad i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf

7.2 Holodd y Pwyllgor James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol a Simon Jones, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru ynglŷn â buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf.

7.3 Cytunodd James Price i anfon eglurhad o’r mewnbwn y bydd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn yr ymgynghoriad ar y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.

 

(16.25)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 9 a’r cyfarfod ar 21 Tachwedd

 

 

Cofnodion:

8.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.35 - 17.00)

9.

Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law ar gyfer eitemau 3 - 7

Cofnodion:

9.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd ar y canlynol:

 

Kancoat

Gofynnodd yr Aelodau i'r Clercod baratoi crynodeb o'r dystiolaeth a dderbyniwyd ynghyd ag argymhellion posibl i’w hystyried. Nododd yr Aelodau hefyd bod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi trefnu i gynnal archwiliad o Ddulliau Cefnogi Busnes Llywodraeth Cymru yn 2017.

 

 

Maes Awyr Caerdydd

Cytunodd yr Aelodau i dderbyn adroddiad cynnydd pellach ymhen 12 mis.

 

Cyswllt awyr

Gofynnodd yr Aelodau am i ganlyniadau adolygiad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith o'r cwmni hedfan Gogledd-De fod ar gael i'r Pwyllgor pan gânt eu cyhoeddi.

 

Band eang

Cytunodd yr Aelodau na fyddant yn gofyn am ragor o ddiweddariadau yn sgil yr ymchwiliad a gynlluniwyd gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i Fand Eang.

 

Cefnffyrdd

Cytunodd yr Aelodau i ystyried eto a fydd angen unrhyw ddiweddariadau pellach ar ôl derbyn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, pan fydd ar gael.