Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod PDF (935KB) Gweld fel HTML
(204KB) |
||
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Mike Hedges. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran. |
|
(14.00) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cytunwyd ar y cofnodion a nodwyd y papurau. 2.2 Cytunodd yr Aelodau y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth
Cymru yn gofyn am eglurhad ynghylch y bwriad o gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn
mynd i'r afael â nifer o'r argymhellion a gafodd eu gwrthod yn Adolygiad Mark.
Yn sgil Argymhelliad 6, bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at AGIC yn gofyn am
eglurhad ynghylch nifer yr arolygiadau a gynhaliwyd ar bractisau meddygon teulu
yn ystod cyfnod penodol er mwyn i'r Pwyllgor allu penderfynu a yw'r gyllid a
roddir yn ddigonol. |
|
Gofal heb ei drefnu: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Gymru (21 Tachwedd 2016) Dogfennau ategol: |
||
Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (16 Tachwedd 2016) Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon 2015-16: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Gymru (21 Tachwedd 2016) Dogfennau ategol: |
||
(14.05 - 14.20) |
Cyflogau Uwch-reolwyr: y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru PAC(5)-11-16 Papur 1 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Lywodraeth Cymru
a chytunwyd eu bod yn fodlon â'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar y materion, ac
na ofynnir am ddiweddariadau pellach. Fodd bynnag, gwnaeth yr Aelodau gais bod
y Pwyllgor yn derbyn copi o Adroddiad y Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus
ar Dryloywder Tâl uwch aelodau staff, pan gaiff ei gyhoeddi yn ddiweddarach
eleni |
|
(14.20 - 15.35) |
Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 1 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Jeremy Parr - Pennaeth Rheoli Peryglon Gweithredol a Llifogydd, Cyfoeth
Naturiol Cymru Jean-Francois Dulong - Swyddog Llifogydd a Dŵr, Cymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Jeremy Parr, Rheolwr Llifogydd a Risg
Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru, a Jean-Francois Dulong, Swyddog Llifogydd a Dŵr, Cymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru yn trafod rheoli
perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. |
|
(15.35) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitemau 6, 7 ac 8 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.45 - 16.00) |
Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(16.00 - 16.30) |
Blaenraglen waith – Gwanwyn 2017 PAC(5)-11-16 Papur 2 - Rhaglen waith - Gwanwyn 2017 PAC(5)-11-16 Papur 3 - Plant sy'n derbyn gofal - Papur cwmpasu ar gyfer
ymchwiliad posibl PAC(5)-11-16 Papur 4 - Plant sy'n derbyn gofal – Llythyr gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gymunedau a Phlant PAC(5)-11-16 Papur 5 - Goblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd - Papur
cwmpasu ar gyfer ymchwiliad posibl Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd yr Aelodau y drafft o'r flaenraglen waith ar gyfer tymor y
gwanwyn. 7.2 Cytunodd yr Aelodau ar amlinelliad y flaenraglen waith, a chytunwyd i
ymweld â Senedd yr Alban fel rhan o'r ymchwiliad i drefn reoleiddio
cymdeithasau tai. |
|
(16.30-17.00) |
Craffu ar Gyfrifon 2015-16: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-11-16 Papur 6 – Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd yr Aelodau'r adroddiad drafft, a gofynnwyd am nifer o
argymhellion. 8.2 Bydd adroddiad drafft diwygiedig yn cael ei anfon at yr Aelodau i
gytuno arno. |