Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 965KB) Gweld fel HTML (220KB)

 

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar a Lee Waters. Ni chafwyd dirprwyon.

 

(14.00 - 14.10)

2.

Papur(au) i'w nodi:

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

Cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol:

Sesiwn ymadawol  - Y Cadeirydd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn gofyn am eglurhad o wir gost mesurau gwrth-dwyll ac nid dim ond adnoddau staff yr Uned Gwrth-Dwyll.

Maes Awyr Caerdydd  - Y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am wybodaeth ychwanegol ar Cardiff Aviation Limited ac yn benodol yr ymarfer diwydrwydd dyladwy a gynhaliwyd yn 2012.

Kancoat - Y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn a oedd y risg o fod yn ddibynnol ar un cyflenwr wedi'i nodi, ac a gymerwyd camau lliniaru mewn perthynas â hyn. Mae'r Pwyllgor hefyd yn dymuno cwestiynu'r weithdrefn diwydrwydd dyladwy o ystyried ei fod yn seiliedig ar brisiad 2011 a bod y swyddog diwydrwydd dyladwy wedi awgrymu y dylid comisiynu prisiad newydd.

Dyled hanesyddol Llywodraeth Cymru  - Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys y mater hwn yn ei waith craffu ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2016-17 yn ystod hydref 2017. Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal rhai gwiriadau ynghylch tarddiad y ddyled a chynghori'r Pwyllgor yn unol â hynny.

 

 

2.1

Sesiwn ymadawol: Gwybodaeth ychwanegol gan Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (24 Tachwedd 2016)

Dogfennau ategol:

2.2

Maes Awyr Caerdydd: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (28 Tachwedd 2016)

Dogfennau ategol:

2.3

Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (28 Tachwedd 2016)

Dogfennau ategol:

2.4

Llywodraeth Cymru yn cyllido Kancoat Cyf: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (29 Tachwedd 2016)

Dogfennau ategol:

2.5

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Gwybodaeth ychwanegol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (28 Tachwedd 2016)

Dogfennau ategol:

2.6

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (29 Tachwedd 2016)

Dogfennau ategol:

2.7

Dyled hanesyddol Llywodraeth Cymru: Llythyr oddi wrth Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid (29 Tachwedd 2016)

Dogfennau ategol:

2.8

Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (30 Tachwedd 2016)

Dogfennau ategol:

2.9

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Parodrwydd ar gyfer cyflwyno pwerau cyllidol

Dogfennau ategol:

(14.10 - 15.15)

3.

Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru

Briff Ymchwil

PAC(5)-13-16 Papur 1 - Llythyr gan Lywodraeth Cymru

 

James Price - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Matthew Quinn - Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru

James Morris - Pennaeth y Tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, yr Economi, Sgiliau a Grŵp Adnoddau Naturiol, Matthew Quinn, Cyfarwyddwr, Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy a

James Morris, Pennaeth Tîm Erydu Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordirol, Llywodraeth Cymru ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.

Cytunodd James Price i:

·       Anfon nodyn ar y posibilrwydd y gallai caniatâd cynllunio yn y dyfodol gynnwys cyfyngiadau ar ddatblygwyr i blannu coed, cyfyngu ar y defnydd o bafin bloc er enghraifft, i leihau effaith llifogydd.

·       Anfon nodyn ar y realiti bod adeiladu wedi digwydd ar dir gwael agored i lifogydd a bod posibilrwydd y bydd datblygiadau pellach yn digwydd yn y dyfodol.

 

 

(15.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 5, 6, 7, 8, a 9 o cyfarfod heddiw a’r cyfarfod ar 9 Ionawr 2017

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.25 - 15.40)

5.

Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd a chytunwyd i gyhoeddi adroddiad byr yn dilyn eu sesiynau tystiolaeth.

 

(15.40 - 15.55)

6.

Diogelwch Cymunedol yng Nghymru: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Briff Ymchwil

PAC(5)-13-16 Papur 2 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-13-16 Papur 3 - Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar adroddiad diweddar Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ac ar ôl ystyried eu hymatebion, yn ystyried a ddylid cynnal sesiynau tystiolaeth lafar ar y mater hwn.

 

(15.55-16.10)

7.

Dull strategol cynghorau o greu incwm a chodi tâl: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Briff Ymchwil

PAC(5)-13-16 Papur 4 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-13-16 Papur 5 - Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar adroddiad diweddar Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ddull strategol cynghorau i greu incwm a chodi tâl.

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiwn dystiolaeth ar y mater hwn yn ystod gwanwyn 2017.

 

 

(16.10 - 16.40)

8.

Arlwyo mewn Ysbytai a Maeth Cleifion: Y Prif Faterion

PAC(5)-13-16 Papur 6 - Dadansoddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru o gwestiynau a ofynnwyd i fyrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre

PAC(5)-13–16 Papur 7 – Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

PAC(5)-13-16 Papur 8 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

PAC(5)-13-16 Papur 9 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

PAC(5)-13-16 Papur 10 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

PAC(5)-13-16 Papur 11 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

PAC(5)-13-16 Papur 12 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

PAC(5)-13-16 Papur 13 - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

PAC(5)-13-16 Papur 14 - Ymddiriedolaeth GIG Felindre

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cafodd y papurau eu nodi.

8.2 Cytunodd yr Aelodau i gyhoeddi eu canfyddiadau mewn adroddiad byr.