Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/11/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Lee Waters AC. Nid oedd neb yn dirprwyo ar ei ran.

 

(14.00 - 14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

2.2 O ran heriau digidoleiddio, roedd yr Aelodau'n cytuno y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau gan amgáu copi o lythyr yr Ysgrifennydd Parhaol gan argymell bod y Pwyllgor yn holi’r Gweinidog ymhellach ynglŷn â’r mater. Cytunodd yr Aelodau hefyd i gynnal sesiwn ragarweiniol yn y flwyddyn newydd gyda Chyfarwyddwr Cyffredinol newydd Llywodraeth Cymru.

 

 

 

2.1

Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Gwybodaeth ychwanegol gan Chwaraeon Cymru (14 Tachwedd 2017)

Dogfennau ategol:

2.2

Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru (17 Tachwedd 2017)

Dogfennau ategol:

2.3

Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Gwybodaeth ychwanegol gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru (20 Tachwedd 2017)

Dogfennau ategol:

2.4

Heriau digidoleiddio: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Gymru (17 Tachwedd 2017)

Dogfennau ategol:

2.5

Penodi Cyfarwyddwyr Cyffredinol Llywodraeth Cymru: Llythyr gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru (21 Tachwedd 2017)

Dogfennau ategol:

(14.05 - 14.15)

3.

Maes Awyr Caerdydd: y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-30-17 Papur 1 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd yr Aelodau y wybodaeth a chytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn amlygu pryderon ynghylch yr amser a gymerwyd i benodi aelod allanol i fwrdd Holdco gan ofyn am esboniad am yr oedi.

 

(14.15 - 15.30)

4.

Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 2

Brîff y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-30-17 Papur 2 -  Papur gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Naomi Alleyne – Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Elke Winton – Rheolwr Grŵp - Tai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Nigel Stannard – Rheolwr y Rhaglen Cefnogi Pobl, Cyngor Dinas Casnewydd (a Chadeirydd Rhwydwaith Gwybodaeth y Rhaglen Cefnogi Pobl)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Elke Winton, Rheolwr Grŵp Tai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen; a Nigel Stannard, Rheolwr Rhaglen Cefnogi Pobl, Cyngor Dinas Casnewydd (a Chadeirydd y Rhwydwaith Gwybodaeth Cefnogi Pobl) fel rhan o'i ymchwiliad i Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru.

 

 

(15.40 - 16.40)

5.

Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 3

PAC(5)-30-17 Papur 3 - Papur gan Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent

 

Sam Lewis – Is-gadeirydd, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent

Angela Lee – Cydgysylltydd Datblygiad Rhanbarthol, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sam Lewis, Is-gadeirydd Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent ac Angela Lee, Cydlynydd Datblygu Rhanbarthol, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent fel rhan o'i ymchwiliad i Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru.

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ddadansoddiad o'r costau gweinyddol sy'n gysylltiedig â’r Rhaglen Cefnogi Pobl a'r grantiau eraill gan Lywodraeth Cymru sy'n cael eu hystyried ar gyfer y prosiect cyllido hyblyg.

 

 

(16.40)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 7 & 8 o’r cyfarfod heddiw ac Eitemau 1 a 2 o gyfarfod 4 Rhagfyr 2017

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.40 - 16.50)

7.

Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.50 - 17.00)

8.

Blaenraglen waith – Gwanwyn 2018

PAC(5)-30-17 Papur 4 - Blaenraglen Waith Gwanwyn 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn.