Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/04/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(14.00 - 14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.1 Yn dilyn ystyriaeth yr Aelodau, cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad pellach am heriau digideiddio a chaffael cyhoeddus.

 

2.1

Heriau Digideiddio: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (4 Ebrill 2018)

Dogfennau ategol:

2.2

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Gwybodaeth ychwanegol gan CLLC (Ebrill 2018)

Dogfennau ategol:

2.3

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Gwybodaeth ychwanegol gan y Rhwydwaith Maethu (Ebrill 2018)

Dogfennau ategol:

2.4

Caffael Cyhoeddus: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (20 Ebrill 2018)

Dogfennau ategol:

(14.05 - 14.10)

3.

Cyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar Gyfrifon Blynyddol 2015-16

PAC(5)-10-18 Papur 1 – Craffu ar Gyfrifon Blynyddol 2015-16 - Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun gweithredu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd yr Aelodau y llythyr a'r ffaith y bydd diweddariad pellach cyn toriad yr haf.

 

(14.10 - 14.15)

4.

Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog

PAC(5)-10-18 Papur 2 – Llythyr gan Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

PAC(5)-10-18 Papur 2A - Atodiad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun gweithredu a'r ffaith y darperir diweddariad pellach ym mis Medi.

 

 

(14.15 - 14.30)

5.

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Ystyried ymatebion i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-10-18 Papur 3 – Ymateb gan Gyngor Celfyddydau Cymru
PAC(5)-10-18 Papur 4 – Ymateb gan Gomisiwn y Cynulliad

PAC(5)-10-18 Papur 5 – Llythyr gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

PAC(5)-10-18 Papur 6 – Ymateb gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru

PAC(5)-10-18 Papur 7 – Ymateb gan Chwaraeon Cymru

PAC(5)-10-18 Papur 8 – Papur gan Lywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd yr Aelodau yr ymatebion i'r argymhellion yn Adroddiad y Pwyllgor a'u nodi.

5.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ac at Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda sylwadau'r Pwyllgor ar eu hymatebion.

 

 

(14.30 - 16.00)

6.

Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Sesiwn dystiolaeth 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-10-18 Papur 9 – Papur gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

 

Andrew Griffiths - Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Phrif Swyddog Gwybodaeth Cymru

Steve Ham - Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth GIG Felindre

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Andrew Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Phrif Swyddog Gwybodaeth Cymru a chan Steve Ham, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth GIG Felindre fel rhan o'r ymchwiliad i Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru.

6.2 Cytunodd Steve Ham i anfon rhagor o wybodaeth ynglŷn â nifer o bwyntiau a godwyd.

 

(16.00)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 8, 9 a 10 ac Eitem 1 y cyfarfod ar 23 Ebrill 2018

 

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.00 - 16.10)

8.

Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.10 - 16.20)

9.

Adnoddau ar gyfer craffu ar Brexit: Llythyr gan y Llywydd (16 Mawrth 2018)

PAC(5)-10-18 Papur 10 – Llythyr gan y Llywydd (16 Mawrth 2018)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd yr Aelodau lythyr y Llywydd a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ymateb gyda'u barn.

 

(16.20 - 17.00)

10.

Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-10-18 Papur 11 – Gohebiaeth â Chwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd

PAC(5)-10-18 Papur 12 – Gohebiaeth â Llywodraeth Cymru

PAC(5)-10-18 Papur 13 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth rhwng y Cadeirydd a'r Heads of the Valleys Development Company a'r ffaith y disgwylir ymateb yn nes ymlaen yr wythnos hon gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

10.2 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried drafft arall mewn cyfarfod o'r Pwyllgor.