Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/07/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC a Rhianon Passmore AC. Roedd Mike Hedges AC
yn bresennol fel dirprwy. |
|
(13.45 - 13.50) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Speak my language: Overcoming language and communication barriers in public services: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol: |
||
Addasiadau Tai: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (10 Gorffennaf 2018) Dogfennau ategol: |
||
Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (10 Gorffennaf 2018) Dogfennau ategol: |
||
Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (12 Gorffennaf 2018) Dogfennau ategol: |
||
(13.50 - 14.50) |
Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: sesiwn dystiolaeth 4 Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-21-18
Papur 1 – Llywodraeth Cymru Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru Simon Dean - Dirprwy Brif Weithredwr GIG, Llywodraeth
Cymru Steve Elliot - Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr
Cyffredinol a Phrif Weithredwr y GIG, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Simon
Dean, Dirprwy Brif Weithredwr y GIG; a Steve Elliot, Dirprwy Gyfarwyddwr
Cyllid, Llywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i weithredu Deddf Cyllid y
GIG (Cymru) 2014. 3.2 Cytunodd Dr Goodall i anfon gwybodaeth ychwanegol am nifer o faterion a
godwyd. |
|
(15.00 - 15.45) |
Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: sesiwn dystiolaeth 4 Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-21-18
Papur 2 – Llywodraeth Cymru PAC(5)-21-18
Papur 3 – Gohebiaeth gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru Andrew Griffiths - Prif Weithredwr, Gwasanaeth Gwybodeg
GIG Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr
Cyffredinol a Phrif Weithredwr y GIG, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
Frances Duffy, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Llywodraeth Cymru; ac Andrew
Griffiths, Prif Weithredwr, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru fel rhan o'r
ymchwiliad i Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru. 4.2 Cytunodd Dr Goodall ac Andrew Griffiths i anfon rhagor o wybodaeth
ynglŷn â nifer o bwyntiau a godwyd. |
|
(15.45 - 16.45) |
Sesiwn ffarwél: Archwilydd Cyffredinol Cymru Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-21-18
Papur 4 – Archwilydd Cyffredinol Cymru: Myfyrdodau wrth ffarwelio Huw
Vaughan Thomas CBE – Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cynhaliodd yr Aelodau sesiwn ffarwél gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru
cyn iddo ymddeol ar 20 Gorffennaf 2018. 5.2 Nododd Cadeirydd y Pwyllgor ei ddiolch i Huw am yr holl gefnogaeth a
chyngor a roddodd i holl Gadeiryddion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystod ei
gyfnod fel Archwilydd Cyffredinol, a dymunodd ymddeoliad hir iddo yn llawn
hapusrwydd ac iechyd. Dywedodd wrth yr Aelodau ei fod yn gwneud datganiad llawn
yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 20 Gorffennaf ond gan mai hwn oedd eitem
gyhoeddus olaf Huw yn y Pwyllgor, roedd am nodi ei ddiolch ar y cofnod. |
|
(16.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitemau 7
ac 8 o'r cyfarfod ar 17 Medi 2018 ac Eitemau 1 a 2 o'r cyfarfod ar 24 Medi 2018 Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.45 - 17.00) |
Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a gafwyd. |
|
(17.00 - 17.15) |
Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 8.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a gafwyd. |