Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/06/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

 

(13.15 - 14.50)

2.

Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Sesiwn dystiolaeth gyda Banc Datblygu Cymru

Papur briffio

 

Giles Thorley – Prif Weithredwr, Banc Datblygu Cymru

Mike Owen – Cyfarwyddwr Buddsoddi Grŵp, Banc Datblygu Cymru

Rhian Elston – Cyfarwyddwr Buddsoddi, Banc Datblygu Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Giles Thorley, Prif Weithredwr, Mike Owen, Cyfarwyddwr Buddsoddi Grŵp, a Rhian Elston, Cyfarwyddwr Buddsoddi Banc Datblygu Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i Gymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnes .

2.2 Cytunodd Giles Thorley i anfon manylion am nifer yr unedau tai a adeiladwyd hyd yn hyn o ganlyniad i gefnogaeth Banc Datblygu Cymru.

 

(15.00 - 16.30)

3.

Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach

PAC(5)-16-19 Papur 1 – Ffederasiwn Busnesau Bach

 

Ben Cottam – Pennaeth Materion Allanol, Ffederasiwn Busnesau Bach

John Hurst – FBB Aelod, B2B IT Services

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Ben Cottam, Pennaeth Materion Allanol Ffederasiwn Busnesau Bach, a John Hurst o B2B IT Services, aelod o Ffederasiwn Busnesau Bach, fel rhan o'r ymchwiliad i Gymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnes.

 

(16.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitemau 5 a 6

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.30-16.45)

5.

Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.45-17.00)

6.

Gwrthsefyll twyll yn y Sector Cyhoeddus: Papur briffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-16-19 Papur 2 – Archwilydd Cyffredinol Cymru: Trefniadau Gwrth-dwyll yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru - Trosolwg ar gyfer y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd yr Aelodau eu briffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ei adroddiad ar Drefniadau Atal Twyll yn y Sector Cyhoeddus cyn digwyddiad y Pwyllgor ar 1 Gorffennaf.