Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofnod y Trafodion

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor i'r cyfarfod.

1.2       Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(14.00 - 14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Dull strategol cynghorau o ran creu incwm a chodi ffioedd: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (21 Chwefror 2017)

Dogfennau ategol:

2.2

Dull strategol cynghorau o ran creu incwm a chodi ffioedd: Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Chwefror 2017)

Dogfennau ategol:

2.3

Dull strategol cynghorau o ran creu incwm a chodi ffioedd: Gwybodaeth ychwanegol gan Ddinas a Sir Caerdydd (Chwefror 2017)

Dogfennau ategol:

(14.05 - 15.15)

3.

Rheoli meddyginiaethau: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-08-17 Papur 1 - Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar reoli meddyginiaethau ym meysydd gofal sylfaenol ac eilaidd

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr GIG Cymru

Andrew Evans - Prif Swyddog Fferyllol, Llywodraeth Cymru

Jean White - Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru

Alan Brace - Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol/Prif Weithredwr y GIG; Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol; yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio; ac Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru, fel rhan o'i ymchwiliad i reoli meddyginiaethau.

3.2 Cytunodd Dr Goodall i gynnal gwerthusiad ar nifer y wardiau sy'n defnyddio peiriannau gwerthu awtomatig ar gyfer meddyginiaethau a bydd yn ceisio egluro tensiynau yn y system ar yr un pryd.

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i gymryd rhagor o dystiolaeth gan y byrddau iechyd yn nhymor yr haf.

 

(15.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 5, 6, 7, 8, 9 a 10

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15:25 - 15:35)

5.

Rheoli meddyginiaethau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15.35 - 16.00)

6.

Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-08-17 Papur 2 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Gohiriodd y Pwyllgor y drafodaeth ynghylch yr adroddiad drafft tan y cyfarfod nesaf.

 

(16.00 - 16.15)

7.

Cyfrifon Cyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2015-16: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Cofnodion:

7.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ddiweddariad llafar ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran Cyfrifon Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru 2015-16.

 

(16.15 - 16.30)

8.

Cyllid Awdurdodau Lleol ar gyfer Gwasanaethau Trydydd Sector: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-08-17 Papur 3 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-08-17 Papur 4 - Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cafodd y Pwyllgor friff ynghylch adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ei adroddiad diweddar ynghylch Cyllid Awdurdodau Lleol ar gyfer Gwasanaethau Trydydd Sector.

8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn amlinellu pryderon ynghylch caffael priodol ar gyfer gwasanaethau trydydd sector. Bydd y Pwyllgor yn dychwelyd at y mater hwn ar ôl cael ei ymateb.

 

 

(16.30 - 16.45)

9.

Llywodraethu a Rheolaeth Ariannol mewn Cynghorau Cymuned 2015-16: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-08-17 Papur 5 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cafodd y Pwyllgor friff am adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ei adroddiad diweddar ynghylch Llywodraethu a Rheolaeth Ariannol mewn Cynghorau Cymuned 2015-16.

9.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn mynegi ei bryder am wendidau o ran llywodraethu a rheolaeth ariannol ar draws y sector a'i wahodd i roi sylwadau ar ganfyddiadau'r Archwilydd Cyffredinol. Bydd y Pwyllgor yn dychwelyd at y mater hwn ar ôl cael ei ymateb.

 

(16.45 - 17.00)

10.

Yr heriau llywodraethu sy’n cael eu peri gan wasanaethau a ddarperir yn anuniongyrchol, ac a ariennir gan y cyhoedd yng Nghymru: papur trafod Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-8-17 Papur 6 – Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor (14 Chwefror 2017)

PAC(5)-8-17 Papur 7 – Papur Trafod Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Cafodd y Pwyllgor friff ynghylch adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ei bapur trafod am yr heriau llywodraethu sy'n cael eu peri gan wasanaethau a ddarperir yn anuniongyrchol, ac a ariennir gan y cyhoedd yng Nghymru.

10.2 Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn nhymor yr hydref.