Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod (PDF 350KB) Gweld fel HTML
(189KB) |
||
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd
unrhyw ymddiheuriadau. 1.3 Datganodd Mike
Hedges AC fuddiant fel Llywodraethwr dwy ysgol gynradd a datganodd Neil McEvoy
AC fuddiant fel cyn athro. |
|
Papur(au) i'w nodi: Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
||
(14.05 - 15.15) |
Consortia Addysg Rhanbarthol: Sesiwn dystiolaeth 3 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Owen Evans – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau
Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru Steve Davies – Cyfarwyddwr Addysg, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Craffodd yr Aelodau ar waith Owen Evans, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol,
Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, a Steve Davies, Cyfarwyddwr Addysg,
Llywodraeth Cymru, fel rhan o'r ymchwiliad i Gonsortia Addysg Rhanbarthol. 3.2 Cytunodd Owen Evans i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn: · Data o'r
rhanbarthau sy'n dangos i ba raddau y mae gwaith ysgol i ysgol yn gweithio · Data sy'n
dangos canran y gwelliant yn y pynciau TGAU allweddol canlynol yn dilyn rhaglen Her Ysgolion Cymru · Anfon nodyn
ynghylch y defnydd o Moodle · Anfon penawdau
o'r ymweliad diweddar â'r Ffindir. |
|
(15.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 5 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.25 - 16.00) |
Consortia Addysg Rhanbarthol: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. 5.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda meysydd holi
yr oedd yr aelodau yn dymuno eu harchwilio ymhellach. 5.3 Cytunodd yr Aelodau ar ôl ystyried yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, y
dylid anfon pryderon y Pwyllgor at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg. |