Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 350KB) Gweld fel HTML (189KB)

 

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2       Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

1.3       Datganodd Mike Hedges AC fuddiant fel Llywodraethwr dwy ysgol gynradd a datganodd Neil McEvoy AC fuddiant fel cyn athro.

 

2.

Papur(au) i'w nodi:

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(14.05 - 15.15)

3.

Consortia Addysg Rhanbarthol: Sesiwn dystiolaeth 3

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Owen Evans – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

Steve Davies – Cyfarwyddwr Addysg, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd yr Aelodau ar waith Owen Evans, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, a Steve Davies, Cyfarwyddwr Addysg, Llywodraeth Cymru, fel rhan o'r ymchwiliad i Gonsortia Addysg Rhanbarthol.

3.2 Cytunodd Owen Evans i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:

·       Data o'r rhanbarthau sy'n dangos i ba raddau y mae gwaith ysgol i ysgol yn gweithio

·       Data sy'n dangos canran y gwelliant yn y pynciau TGAU allweddol canlynol yn dilyn  rhaglen Her Ysgolion Cymru

·       Anfon nodyn ynghylch y defnydd o Moodle

·       Anfon penawdau o'r ymweliad diweddar â'r Ffindir.

 

 

(15.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 5

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.25 - 16.00)

5.

Consortia Addysg Rhanbarthol: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

5.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda meysydd holi yr oedd yr aelodau yn dymuno eu harchwilio ymhellach.

5.3 Cytunodd yr Aelodau ar ôl ystyried yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, y dylid anfon pryderon y Pwyllgor at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.