Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 176KB) Gweld fel HTML (51KB)

 

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Lee Waters AC. Roedd Joyce Watson AC yn dirprwyo ar ei ran.

 

(14.00 - 14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Cyfrifon Llywodraeth Ganolog 2015-16

PAC(5)-16-17 PTN1: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Cyfrifon Llywodraeth Ganolog 2015-16

Dogfennau ategol:

2.2

Cyfoeth Naturiol Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 - Gwybodaeth ychwanegol gan Cymdeithas Cynnyrch Coedwigoedd y Deyrnas Unedig (24 Mai 2017)

Dogfennau ategol:

2.3

Cyfoeth Naturiol Cymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Cyfoeth Naturiol Cymru (26 Mai 2017)

Dogfennau ategol:

(14.05 - 14.20)

3.

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-16-17 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-16-17 Papur 2 - Llythyr gan Swyddfa Archwilio Cymru yn trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i ofyn am adroddiad cynnydd yn ystod tymor yr hydref 2017.

3.2 Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylid ceisio cael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr amser o ran bwriad Llywodraeth Cymru i weithio gyda byrddau iechyd i ymchwilio i hyfforddiant gorfodol ar gyfer maeth.

 

(14.20)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 5, 6, 7 ac 8

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.20 - 15.30)

5.

Cyfoeth Naturiol Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-16-17 Papur 3 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafodwyd yr adroddiad drafft. Gofynnodd Aelodau i rywfaint o newidiadau drafftio gael eu gwneud, a fydd yn cael eu trafod y tu allan i'r Pwyllgor.

 

(15.30 - 16.00)

6.

Blaenraglen waith: Rhaglen Waith Gwerth am Arian Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-16-17 Papur 4 - Rhaglen Waith Gwerth am Arian Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cyflwynodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei bapur ar waith sy'n mynd rhagddo ar raglen waith gwerth am arian, a gafodd ei nodi gan yr Aelodau.

 

(16.00 - 16.30)

7.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Y Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-16-17 Papur 5 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Y Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cafodd Aelodau eu briffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ei adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar a chytunodd i gynnal ymchwiliad yn hwyrach yn nhymor yr hydref 2017 unwaith y bydd gan Lywodraeth Cymru gynlluniau mwy datblygedig ar gael ar gyfer Band B y rhaglen.

 

(16.30 - 17.00)

8.

Plant sy’n derbyn gofal: Trafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad

PAC(5)-16-17 Papur 6 - Ymatebion i'r ymgynghoriad ar y cylch gorchwyl drafft

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd yr Aelodau y papur a chroesawodd gynnig Archwilydd Cyffredinol Cymru i lunio Memorandwm ar ddarlun eang y mater. Roedd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol o'r angen i gysylltu â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod y gwaith hwn.