Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 561KB) Gweld fel HTML (362KB)

 

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

 

1.2 Yn dilyn newidiadau i aelodaeth y Pwyllgor ar 21 Mehefin, croesawodd y Cadeirydd Vikki Howells i'r Pwyllgor a diolchodd i Mike Hedges am ei waith. Fodd bynnag, roedd Mike Hedges yn dirprwyo ar ran Vikki Howells heddiw. 

 

(14.00 - 14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w hysbysu am y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor, gan ei bod yn bosibl y bydd y Pwyllgor plant yn dymuno gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn ystod y sesiynau a drefnwyd i graffu ar waith y Gweinidog.

2.3 Gofynnodd Mike Hedges AC i'r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad pellach ynghylch y sefyllfa o ran gweithgynhyrchu uwch mewn perthynas â chwmni Kancoat.

 

2.1

Consortia Addysg Rhanbarthol: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (16 Mehefin 2017)

Dogfennau ategol:

2.2

Llywodraeth Cymru yn ariannu Kancoat Ltd: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (21 Mehefin 2017)

Dogfennau ategol:

(14.05 - 15.45)

3.

Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru: Sesiwn dystiolaeth

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-18-17 Papur 1 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-18-17 Papur 2 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-18-17 Papur 3 – Llythyr gan Lywodraeth Cymru (16 Mehefin 2017)

PAC(5)-18-17 Papur 4 – Llythyr gan Lywodraeth Cymru (21 Mehefin 2017)

PAC(5)-18-17 Papur 4A – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru (21 Mehefin 2017)

PAC(5)-18-17 Papur 4B – Llythyr gan Lywodraeth Cymru i Gadeirydd y Pwyllgor (23 Mehefin 2017)

PAC(5)-18-17 Papur 4C – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru (23 Mehefin 2017)

 

James Price - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

Tracey Mayes - Pennaeth Llywodraethiant a Chydymffurfiaeth, Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad agoriadol ynghylch yr ohebiaeth ddiweddar rhwng Llywodraeth Cymru ac ef ei hun.

3.2 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda James Price, dirprwy ysgrifennydd parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru; a Tracey Mayes, pennaeth llywodraethu a chydymffurfio Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru, ar y cyllid cychwynnol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i brosiect Cylchffordd Cymru.

3.3 Cytunodd James Price i gymryd y camau a ganlyn:

·       Ysgrifennu at y Pwyllgor gyda manylion ynghylch cyfanswm y gwariant a gafwyd hyd yn hyn a'r cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu; 

·       Anfon y canllawiau mewnol y mae swyddogion yn glynu wrthynt pan fyddant yn asesu ceisiadau grant;

·       Darparu manylion pellach am y broses diwydrwydd dyladwy a ddilynwyd, yn dilyn penderfyniad y Cabinet ynghylch ariannu prosiect Cylchffordd Cymru; ac

·       Ymchwilio i bwy yn Llywodraeth Cymru wnaeth y sylw am 'grandstanding' a gafodd ei gynnwys mewn datganiad i'r wasg, a darparu'r wybodaeth berthnasol i'r Cadeirydd.

 

(15.45)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 5, 6 a 7

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.55 - 16.15)

5.

Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd, a gwnaethant gytuno y byddai adroddiad yn cael ei baratoi i'r Aelodau ei ystyried.

 

(16.15 - 16.25)

6.

Cyfoeth Naturiol Cymru

PAC(5)-18-17 Papur 5 – Gwybodaeth ychwanegol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

PAC(5)-18-17 Papur 6 – Llythyr drafft i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd yr Aelodau y wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a gwnaethant gytuno ar y llythyr drafft a gaiff ei anfon at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

 

(16.25 - 17.00)

7.

Ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-18-17 Papur 7 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Yn sgil cyfyngiadau amser, ni chafodd yr eitem hon ei thrafod. Fodd bynnag, gofynnwyd i'r Aelodau anfon unrhyw sylwadau yn deillio o'u hystyriaeth gychwynnol o adroddiad y Pwyllgor i'r Clercod, a fydd yn aildrefnu'r eitem ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.