Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 494KB) Gweld fel HTML (302KB)

 

(12.00 - 13.00)

1.

Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Strategaeth y Pwyllgor

Cofnodion:

1.1 Cymerodd Aelodau'r Pwyllgor ran mewn hyfforddiant fel rhan o'u paratoi ar gyfer y gwaith sydd i ddod ar graffu ar gyfrifon.

 

(13.00 - 13.30)

2.

Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Cofnodion:

2.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth ar lafar ar ganfyddiadau ei Archwiliad o Reoliadau Contractio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gyda RKC Associates Ltd a'i Berchennog, a gyhoeddwyd ar 17 Gorffennaf 2017.

 

(13.30 - 13.40)

3.

Cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Carmarthenshire Energy Limited: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-23-17 Papur 1A - Rhaglen waith yr hydref

 

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-23-17 Papur 1 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-23-17 Papur 2 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth ar lafar ar ganfyddiadau ei Adroddiad ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Carmarthenshire Energy Limited, a gyhoeddwyd ar 20 Gorffennaf.

3.2 Cytunodd yr aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig er mwyn rhoi gwybod iddo am yr Adroddiad.

 

 

(13.40 - 13.50)

4.

Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-23-17 Papur 3 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-23-17 Papur 3A – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth ar lafar ar ganfyddiadau ei Adroddiad ar Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar 31 Awst 2017.

4.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal ymchwiliad ar y mater hwn.

 

 

(14.00)

5.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

5.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor.

5.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan.

 

(14.00 - 14.15)

6.

Papur(au) i'w nodi:

Cofnodion:

6.1 Cafodd y papurau eu nodi.

6.2 Cytunodd y Cadeirydd i anfon copi o ymateb Llywodraeth Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

6.3 Mewn perthynas ag Eitem 6.7, Amseroedd Aros GIG ar gyfer Gofal Dewisol yng Nghymru a Gwasanaethau Orthopedig, nododd yr Aelodau y cynnydd a wnaed a chytunwyd i dderbyn diweddariad pellach ar gynnydd yn ystod gwanwyn 2018.

 

 

 

6.1

Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach: gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (18 Gorffennaf 2017)

Dogfennau ategol:

6.2

Cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Kancoat Cyf: gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (21 Gorffennaf 2017)

Dogfennau ategol:

6.3

Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru: llythyr gan Dr Kate Chamberlain, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (19 Gorffennaf 2017)

Dogfennau ategol:

6.4

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (25 Gorffennaf 2017)

Dogfennau ategol:

6.5

Diogelwch Cymunedol yng Nghymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (26 Gorffennaf 2017)

Dogfennau ategol:

6.6

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

6.7

Amseroedd Aros y GIG ar gyfer Gofal Dewisol yng Nghymru a Gwasanaethau Orthopedig: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (7 Awst 2017)

Dogfennau ategol:

6.8

Gweithredu Deddf Cymru 2017: Llythyr gan y Llywydd (18 Awst 2017) a llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru (17 Medi 2017)

Dogfennau ategol:

6.9

Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

(14.15 - 14.25)

7.

Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-23-17 Papur 4 – Ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(5)-23-17 Papur 5 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd Aelodau'r Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor a nododd y bydd y Cadeirydd yn anfon copi o'r ymateb at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

7.2 Cytunodd yr Aelodau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn ystod y  gwanwyn 2018 ond yn y cyfamser, bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu i Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ar nifer o bwyntiau a godwyd.

 

(14.25 - 14.35)

8.

Ymchwiliad i oruchwyliaeth reoleiddiol ar Gymdeithasau Tai: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-23-17 Papur 6 – Ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(5)-23-17 Papur 7 - Llythyr gan Gartrefi Cymunedol Cymru

PAC(5)-23-17 Papur 8 – Ymateb Bwrdd Rheoleiddiol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd Aelodau'r Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion a gynhwyswyd yn adroddiad y Pwyllgor a nododd yr ymateb cadarnhaol gan y sector tai.

8.2 Cytunodd yr Aelodau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn ystod y  gwanwyn a Thachwedd 2018.

 

 

(14.35 - 14.45)

9.

Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru: Y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar

Cofnodion:

9.1 Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod ymateb manwl i'w lythyr ar 26 Mehefin wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru a bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi rhoi sylwadau arno.

9.2 Oherwydd pwysau amser, dywedodd nad oedd digon o amser i ystyried a thrafod yr ymatebion yn fanwl.

9.3 Cytunodd yr aelodau i drafod yr ohebiaeth hon yn ystod y cyfarfod ar 2 Hydref 2017.

 

(14.45 - 14.55)

10.

Cyflogau Uwch-reolwyr: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-23-17 Papur 9 – Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru  (17 Awst 2017)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru ar gyflog uwch reolwyr ar draws sector cyhoeddus Cymru 2015-16.

10.2 Gofynnodd yr aelodau i'r Cadeirydd ysgrifennu i Lywodraeth Cymru yn diolch iddynt am yr adroddiad ac yn gofyn bod adroddiadau blynyddol yn y dyfodol yn cynnwys manylion am sefydliadau addysg bellach a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.

 

(15.05 - 16.10)

11.

Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog: Sesiwn dystiolaeth

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-23-17 Papur 10 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-23-17 Papur 11 - Papur gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

PAC(5)-23-17 Papur 12 – Llythyr gan Lwodraeth Cymru

 

Len Richards - Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Maria Battle - Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Len Richards, Prif Weithredwr a Maria Battle, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr  Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog.

 

(16.10 - 16.40)

12.

Sesiwn ymadawol: Owen Evans - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Owen Evans, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

12.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn ymadawol gydag Owen Evans,  Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, cyn iddo adael y sefydliad.

12.2 Dymunodd y Cadeirydd yn dda iddo yn ei rôl newydd fel Prif Weithredwr S4C.

 

(16.40)

13.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 14 a 15

 

Cofnodion:

13.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.40 - 16.50)

14.

Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog: Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

14.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i ddychwelyd i'r mater unwaith y derbyniwyd yr adroddiad gwrth-dwyll.

14.2 Yn y cyfamser, cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Brif Weithredwr a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn tynnu sylw at bryderon y Pwyllgor ac yn ceisio sicrwydd y bydd eu cynllun gweithredu yn mynd i'r afael â'r holl faterion a godwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a'r Pwyllgor.

 

(16.50 - 17.00)

15.

Sesiwn ymadawol: Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

15.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.