Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 946KB) Gweld fel HTML (378KB)

 

(13.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan.

 

(13.00 - 13.05)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Glastir: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (18 Medi 2017)

Dogfennau ategol:

(13.05 - 14.00)

3.

Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-24-17 Papur 1 - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17 Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

PAC(5)-24-17 Papur 2 - Llythyr Setliad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ar gyfer 2016-17

 

Sophie Howe - Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer Cymru

Helen Verity - Cyfarwyddwr Cyllid a Llywodraethu Corfforaethol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd yr Aelodau ar Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, a Helen Verity, y Cyfarwyddwr Cyllid a Llywodraethu Corfforaethol, o safbwynt Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17.

 

(14.00 - 15.00)

4.

Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-24-17 Papur 3 - Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17

PAC(50-24-17 Papur 4 - Cyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 – Y wybodaeth ddiweddaraf am daliadau teithio rhatach

 

Shan Morgan – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

David Richards - Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru

Gawain Evans -  Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

Peter Kennedy –Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Craffodd yr Aelodau ar Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru a'i swyddogion, o safbwynt Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.

4.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol y byddai'n:

·       Anfon copi o'r llythyr a anfonodd ei rhagflaenydd ati cyn iddi ddechrau yn ei swydd, â'r rhannau priodol wedi'u golygu;

·       Anfon ffigurau o ran newidiadau i enillion staff unigol dros £100,000 yng nghyfnod yr adroddiad; ac

·       Anfon copi o'r polisi tâl presennol.

 

 

 

 

(15.05 - 15:35)

5.

Heriau digidoleiddio: Sesiwn dystiolaeth

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-24-17 Papur 5 - Llythyr gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru

 

Shan Morgan – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Caren Fullerton - Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru

Peter Kennedy – Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Craffodd yr Aelodau ar Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru a'i swyddogion, o safbwynt heriau digidoleiddio.

 

 

(15.35 - 16.05)

6.

Sesiwn ffarwél: James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

James Price - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn ffarwél gyda James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, cyn iddo adael y sefydliad.

6.2 Dymunodd y Cadeirydd yn dda iddo yn ei swydd newydd fel Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru.

 

 

(16.05)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 8, 9, 10 a 11

 

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.05 -16.15)

8.

Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.15 - 16.25)

9.

Heriau digidoleiddio: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

9.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law gan gytuno y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol i roi eu barn.

 

(16.25 - 16.30)

10.

Sesiwn ffarwél: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

10.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.30 - 17.00)

11.

Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod gohebiaeth y Pwyllgor

PAC(5)-24-17 Papur 6 - Llythyr gan y Cadeirydd at Lywodraeth Cymru (12 Gorffennaf 2017)

PAC(5)-24-17 Papur 7 – Llythyr gan Lywodraeth Cymru at y Cadeirydd (11 Medi 2017)

PAC(5)-24-17 Papur 8 – Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at y Cadeirydd (14 Medi 2017)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law gan gytuno y dylai'r Cadeirydd ateb llythyr James Price dyddiedig 11 Medi yn gofyn am ragor o eglurhad ynglŷn â nifer o bwyntiau, gan gynnwys y rhai y cyfeiriwyd ato yn ei sesiwn ffarwél.