Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 756KB) Gweld fel HTML (309KB)

 

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar AC a Lee Waters AC. Ni chafwyd dirprwyon.

 

(14.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(14.05)

3.

Rheoli meddyginiaethau: Gohebiaeth

PAC(5)-26-17 Papur 1 – Llythyr gan Coleg Brenhinol Meddygon Teulu (4 Medi 2017)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd a nododd yr aelodau y llythyr gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.

 

(14.05 - 14.50)

4.

Rheoli meddyginiaethau: Sesiwn Dystiolaeth - Grŵp Clwstwr Meddygon Teulu o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dr Carwyn Jones - Meddygfa Furnace House, Caerfyrddin

Dr Darren Chant - Meddygfa Teifi, Llandysul

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Carwyn Jones, Meddygfa Furnace House, Caerfyrddin, a Dr Darren Chant, Meddygfa Teifi, Llandysul, fel rhan o'r ymchwiliad i reoli meddyginiaethau.

 

(14.50 - 15.35)

5.

Rheoli meddyginiaethau: Sesiwn Dystiolaeth - Grŵp Clwstwr Meddygon Teulu o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dr Alun Edwards – Meddygfa Tŷ Bryn, Caerffili

Dr Alun Walters – Cyfarwyddwr Clinigol, Gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol, Bwrdd Lechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Eryl Smeethe - Fferyllydd ac Arweinydd Rhwydweithiau Gofal yn y Gymdogaeth Gogledd Torfaen, Bwrdd Lechyd Prifysgol Aneurin Bevan

 

 

Cofnodion:

5.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Alun Edwards, Meddygfa Tŷ Bryn, Caerffili; Dr Alun Walters, Cyfarwyddwr Clinigol, Gwasanaeth Gofal Sylfaenol a Chymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; ac Eryl Smeethe, Fferyllydd ac Arweinydd Rhwydweithiau Gofal Cymdogaeth Gogledd Torfaen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, fel rhan o'r ymchwiliad i reoli meddyginiaethau.

 

 

 

(15.45 - 16.30)

6.

Rheoli meddyginiaethau: Sesiwn dystiolaeth - Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Andrew Evans - Prif Swyddog Fferyllol, Llywodraeth Cymru

Yr Athro Chris Jones - Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru

 

 

Cofnodion:

6.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Andrew Evans, y Prif Swyddog Fferyllol, a'r Athro Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru, fel rhan o'r ymchwiliad i reoli meddyginiaethau.

6.2 Cytunodd Andrew Evans i anfon rhagor o wybodaeth am y dyddiad cyflwyno disgwyliedig ar gyfer y system MTeD (Trawsgrifio ac e-Ddosbarthu Meddyginiaethau) ledled Cymru.

 

(16.30)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 8

 

 

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.30 - 17.00)

8.

Rheoli meddyginiaethau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law, gan ofyn i'r Clercod baratoi adroddiad drafft.