Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod Preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod ac estynnwyd croeso i Adam Price AC a etholwyd yn aelod o'r Pwyllgor ar 18 Hydref.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan.

 

(14.00 - 14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Gwasanaethau rheilffyrdd: gohebiaeth gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau (10 Hydref 2017)

Dogfennau ategol:

(14.05 - 14.20)

3.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Caffael Cyhoeddus yng Nghymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-27-17 Papur 1 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth ar lafar am ganfyddiadau ei adroddiad ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 17 Hydref. Hysbyswyd y Pwyllgor gan yr Archwilydd Cyffredinol y byddai adroddiad arall ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.

3.2 Nododd yr Aelodau yr adroddiad a chytunwyd i ymgymryd ag ymchwiliad pan gyhoeddir adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

 

(14.20 - 14.50)

4.

Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru

PAC(5)-27-17 Papur 2 - Papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad i'r Rhaglen Cefnogi Pobl

4.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r ymchwiliad ganolbwyntio ar effaith datblygiadau polisi ehangach; trefniadau dosbarthu cyllid a chynllunio ariannol; a monitro a gwerthuso effaith y rhaglen. Cytunodd yr Aelodau hefyd i gynnal ymgynghoriad ysgrifenedig.

 

(14.50 - 15.30)

5.

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd yr Aelodau ddadansoddiad llafar o'r ymatebion i'r ymgynghoriad gan Hywel Dafydd o'r Gwasanaeth Ymchwil. Siaradodd Sally Jones o'r Tîm Cyfathrebu am ganfyddiadau'r cyfarfodydd grwpiau ffocws a gynhaliwyd gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.

5.2 Trafododd yr Aelodau gwmpas yr ymchwiliad a thystion posibl ar gyfer Rhan 1 yr ymchwiliad.

 

(15.30 - 16.00)

6.

Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: briffio'r Aelodau - trafodaeth ar ddull gweithredu

PAC(5)-27-17 Papur 3 - Briffio ar gyfer Papurau’r Pwyllgor

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau bapur ar y deunydd briffio maent yn ei gael i'w cynorthwyo gyda'u gwaith paratoi ar gyfer sesiynau casglu tystiolaeth.