Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/01/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r
cyfarfod. 1.2 Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells
AC a oedd yn mynychu digwyddiad defnyddwyr gwasanaeth rhanbarthol Cefnogi Pobl
Bwrdd Cynghori Cenedlaethol. |
|
(14.00 - 14.15) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd
y papurau. Yn benodol, cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol: · Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar
Ddigartrefedd: Bydd y Cadeirydd yn anfon copi o'r Adroddiad at John Griffiths
AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ac yn
gofyn am ymgymeriad o ran a oes gan y Pwyllgor y gallu i gynnal ymchwiliad i'r
mater hwn ac os felly, rhoi llinell amser. · Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Y Cadeirydd
i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ynghylch pam y cynhaliwyd
yr adolygiad sero ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn unig ac a yw trosolwg
o fewn GIG Cymru wedi'i gynnal/wedi'i gynllunio ar ei effeithlonrwydd. · Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Y
Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad o pam nad yw
system arlwyo Cymru Gyfan wedi'i darparu eto ac ni ddisgwylir iddi fod ar gael
fel rhywbeth 'yn ôl y gofyn' tan 2019, yn ogystal â gofyn am
linell amser ar gyfer yr Adolygiad Gateway o System Gwybodaeth Gofal Cymunedol
Cymru. |
|
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Cyfrifon Llywodraeth Ganolog 2016 -17 Dogfennau ategol: |
||
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Digartrefedd Llywodraeth Leol 2017 Dogfennau ategol: |
||
Caffael Cyhoeddus: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol Dogfennau ategol: |
||
Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (22 Rhagfyr 2017) Dogfennau ategol: |
||
Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (3 Ionawr 2018) Dogfennau ategol: |
||
(14.15 - 14.30) |
Diogelwch Cymunedol yng Nghymru PAC(5)-01-18 Papur 1 – Llythyr gan Lywodraeth Cymru (6 Rhagfyr 2017) PAC(5)-01-18 Papur 2 - Adroddiad Llywodraeth Cymru - Gweithio Gyda’n Gilydd
i Greu Cymunedau Mwy Diogel) (cyhoeddwyd 12 Rhagfyr 2017) PAC(5)-01-18 Papur 3 – Datganiad Llafar Llywodraeth Cymru - Gweithio Gyda’n
Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel) (cyhoeddwyd 12 Rhagfyr 2017) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Trafododd yr Aelodau adolygiad Llywodraeth Cymru - Gweithio Gyda'n Gilydd i
Greu Cymunedau Mwy Diogel - a chytunwyd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at
Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurder o'r amserlen ar gyfer gweithredu'r
argymhellion sy'n ymwneud â'r strategaeth diogelwch cymunedol. |
|
(14.30 - 15.30) |
Sesiwn Ragarweiniol gyda Chyfarwyddwyr Cyffredinol newydd, Llywodraeth Cymru Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Tracey Burke - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau ac Adnoddau
Naturiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1
Cynhaliodd yr aelodau sesiwn ragarweiniol gyda Tracey Burke, Cyfarwyddwr
Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus ac Andrew Slade, Cyfarwyddwr
Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol yn dilyn eu penodiad
diweddar. 4.2 Cytunodd
Tracey Burke i anfon rhagor o wybodaeth am y canlynol: · Diweddariad ar elfennau codio y rhaglen Hwb
(gwefan a chasgliad o adnoddau ar-lein a ddarperir i bob ysgol yng Nghymru gan
Lywodraeth Cymru) a chynnwys gwybodaeth am weithgareddau ar addysgu codio mewn
ysgolion yn fwy cyffredinol, nid dim ond yn benodol i’r rhaglen Hwb. 4.3
Cytunodd Andrew Slade i wneud y canlynol: · Darparu nodyn ar y gydberthynas sydd gan
Lywodraeth Cymru â Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU; · Darparu nodyn dilynol ar y tablau yng
nghyd-destun modelu'r economi fel rhan o'r Cynllun Gweithredu Economaidd; · Anfon nodyn i ddiweddaru sut y mae'r pwerau
arfaethedig i roi mwy o ymreolaeth i Trafnidiaeth Cymru yn mynd rhagddynt; a'r · Sylw i Gymru o ganlyniad i'r cyhoeddiad
heddiw o fethdaliad Carillion. |
|
(15.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitemau 6 a 7 Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.30 - 16.15) |
Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-01-18 Papur 4 - Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ac awgrymodd nifer o argymhellion ychwanegol. 6.2 Bydd y
Clercod yn diwygio'r adroddiad drafft ac yn ei ddosbarthu i'r Aelodau, i'w
gytuno, drwy e-bost. |
|
(16.15 - 17.00) |
Y Rhaglen Waith Gyfredol PAC(5)-01-18 Papur 5 – Rhaglen waith gwanwyn 2018 PAC(5)-01-18 Papur 6 - Cyllid ar gyfer y diwydiant ffilm a’r cyfryngau Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Nododd
yr Aelodau gyhoeddi adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Systemau Gwybodeg
GIG Cymru ar 11 Ionawr. Dim ond yn ddiweddarach yn y tymor y disgwylir i ymateb
Llywodraeth Cymru gael ei dderbyn ac oherwydd ei bod eisoes wedi cytuno i
gynnal ymchwiliad i'r materion, bydd y Clercod yn trefnu i dystion fynychu'r
Pwyllgor yn ystod tymor yr haf. 7.2
Trafododd yr Aelodau y materion ariannol sy'n ymwneud â'r diwydiannau ffilm a'r
cyfryngau sydd wedi dod i sylw'r cyhoedd yn ddiweddar. Cytunwyd y dylai
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ystyried materion polisi ac y
dylid cyfeirio unrhyw faterion rheoli ariannol i'r Pwyllgor hwn. Nodwyd fod
disgwyl i ymateb yr Archwilydd Cyffredinol i bryderon a godwyd mewn gohebiaeth
gael ei dderbyn yn ystod wythnos 22 Ionawr. Ar ôl ei dderbyn, bydd y Pwyllgor
yn dychwelyd at y mater. |
|
Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Ymatebion i'r ymgynghoriad Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Nodwyd
yr ymatebion i'r ymgynghoriad. |