Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar AC a Rhianon Passmore AC. Ni chafwyd unrhyw ddirprwyon.

 

(14.00 - 14.10)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (22 Chwefror 2018)

Dogfennau ategol:

2.2

Ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai: Gohebiaeth y pwyllgor

Dogfennau ategol:

2.3

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (26 Chwefror 2018)

Dogfennau ategol:

2.4

Diogelwch Cymunedol yng Nghymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (27 Chwefror 2018)

Dogfennau ategol:

(14.10 - 15.10)

3.

Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Gohebiaeth y pwyllgor

PAC(5)-08-18 Papur 1- Llythyr gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-08-18 Papur 2 - Materion allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau y llythyr a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol, a oedd yn egluro nifer o faterion a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 5 Chwefror.

3.2 Trafododd yr Aelodau y materion allweddol a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr ymchwiliad. Nodwyd bod y Clercod yn paratoi adroddiad drafft i'w ystyried.

 

(15.10 - 15.40)

4.

Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-08-18 Papur 3 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-08-18 Papur 4 - Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (Ionawr 2018)

PAC(5)-08-18 Papur 5 - Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (Mawrth 2018)

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar system wybodeg GIG Cymru.

4.2 Roedd yr Aelodau eisoes wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn. Nodwyd y byddai sesiynau tystiolaeth yn cael eu trefnu ar gyfer dechrau tymor yr haf.

 

(15.40 - 16.00)

5.

Addasiadau Tai: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-08-18 Papur 6 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar addasiadau tai.

5.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn yn ystod tymor yr haf. Cytunwyd y byddant yn cysylltu â'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau er mwyn sicrhau na fydd yr ymchwiliad hwn yn gorgyffwrdd ag unrhyw ymchwiliad y bydd y Pwyllgor hwnnw yn ei gynnal.

 

 

(16.00 - 17.00)

6.

Blaenraglen waith - Haf 2018

PAC(5)-12-18 Papur 7 - Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y rhaglen waith ar gyfer tymor yr haf cyn cytuno arni.