Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/05/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran.

 

(14.00 - 14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.1 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at yr holl Fyrddau Iechyd i ofyn a oeddent yn fodlon â'r ffigurau a gyflwynwyd gan Gyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ynghylch costau rhedeg dwbl (PAC(5)-13-18 PTN6).

 

2.1

Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Gohebiaeth y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

2.2

Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (24 Ebrill 2018)

Dogfennau ategol:

2.3

Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (9 Mai 2018)

Dogfennau ategol:

(14.05 - 15.30)

3.

Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: sesiwn dystiolaeth 3

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-13-18 Papur 1 – Llywodraeth Cymru

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr GIG Cymru

Alan Brace - Cyfarwyddwr Cyllid

Frances Duffy – Cyfarwyddwr Gofal Cyntaf ac Arloesedd

Rhidian Hurle - Prif Swyddog Gwybodaeth Clinigol / Cyfarwyddwr Meddygol  Gwasanaeth Gwybodeg y GIG

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol/Prif Weithredwr y GIG, Alan Brace a Frances Duffy o Lywodraeth Cymru, ynghyd â Rhidian Hurle, Prif Swyddog Gwybodaeth Glinigol Cymru, fel rhan o'u hymchwiliad i Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru.

 

(15.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitemau 5, 6 & 7

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.30 - 16.15)

5.

Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a'r materion allweddol

Cofnodion:

5.1 Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.15 - 16.40)

6.

Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

Cofnodion:

6.1 Cyflwynodd Mark Jeffs o Swyddfa Archwilio Cymru sesiwn friffio lafar i'r Aelodau ynghylch yr ymchwiliad sydd ar y gweill i Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

(16.40 - 17.00)

7.

Swyddfa Archwilio Cymru: rhaglen o astudiaethau gwerth am arian

PAC(5)-13-18 Papur 2 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Archwilydd Cyffredinol gynnwys ei lythyr gyda'r Aelodau.