Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/06/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.15 - 15.00) |
Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Trafod y materion allweddol PAC(5)-15-18 Papur 1 – Materion Allweddol Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1 Trafododd yr Aelodau y papur materion allweddol a gofynnodd bod drafft
cychwynnol o argymhellion posibl yn cael ei baratoi er mwyn eu hystyried. |
|
(15.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC ac Adam Price AC. Ni chafwyd
dirprwyon. |
|
(15.00 - 15.10) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. 3.2 Trafododd y Pwyllgor gynnwys y llythyr ar heriau digidoleiddio gydag
Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol.
Yn dilyn y sesiwn dystiolaeth, gofynnodd Aelodau bod y Clercod yn trafod y
posibilrwydd o sefydlu grŵp rapporteur ynghyd ag Aelodau o Bwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn. |
|
Adroddiad(au) Archwilydd Cyffredinol Cymru: Adolygiad blwyddyn gyntaf o sut mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Dogfennau ategol: |
||
Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (10 Mai 2018) Dogfennau ategol: |
||
Heriau digidoleiddio: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (16 Mai 2018) Dogfennau ategol: |
||
(15.10 - 16.30) |
Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn: sesiwn dystiolaeth Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-15-18
Papur 2– Adolygiad Llywodraeth Cymru o'r Cyswllt Awyr PAC(5)-15-18
Papur 3 – Diweddariad gan Lywodraeth Cymru PAC(5)-15-18 Papur 4 – Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth
Cymru am ddatblygu Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyhoeddus ym maes hedfan Andrew
Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol,
Llywodraeth Cymru Simon
Jones – Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr
Cyffredinol yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, a Simon Jones,
Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru ar Wasanaeth Awyr oddi
mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn 4.2 Cytunodd Andrew Slade i anfon manylion am berfformiad prydlondeb y
gwasanaeth awyr a nifer o weithiau y cafodd y gwasanaeth ei ganslo am resymau
technegol o gymharu â pherfformiad y gwasanaeth o dan weithredwyr eraill ers
2014. |
|
(16.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 6 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.30 - 17.00) |
Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i ofyn am
fanylion y contract, pan y'i dyfernir. |